Tudalen:Cymru fu.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ond," ebai'rcawr, "ar ol eu cael, sut y gwyddom pa rai a ddalias i, a pha rai a ddaliaist dithau? Dylai pob un gael ei eiddo ei hun." "Dylai yn ddiamheu," ebai'r gwenhudiw, gan wenu yn hudol ar y cawr; "ond," ebai'n mhellach, "yr oedd tro yn nghynffon pob un a ddaliais i." Hyny, fel y mae yn hysbys yw nôd mochyn cadwrus. Am hyny aeth y gwenhudiw a phob mochyn o werth, a gadawodd y rhai teneuon cynffonlipa i'r cawr. Yr addysg yw fod y cyfrwys yn byw ar gefn y cryf. Y gweithiwr yw y cawr difeddwl, a'i feistr yn fynych yw y gwenhudiw cyfrwys.

“Goreu cyfrwysdra gonestrwydd.”

"ESMWYTH CWSG POTES MAIP."

"Melus cwsg cawl erfin." Ni wyr y deheuwyr nemawr am botes maip, ac ychydig a wyr y Gogleddwyr am gawl erfin, er mai yr un peth ydynt. Bywioliaeth wael iawn yw potes maip, ie, gwaelach na "photes blawd a dŵr." Cawl dall ydyw; a gwelwyd bechgynach lawer tro yn "tywys y gŵr dall” ar ol colli y potes yn anfwriadol (?) hyd y bwrdd. Ond at y ddiareb:-

Amser maith yn ol yr oedd dau gymydog yn byw dan yr un to, yn agos i'r mynydd, mewn hafod, a chan bob un o honynt luaws o blant. Bychan oedd eu henill, ac, fel y gallesid meddwl, caled ydoedd ar un o honynt. "Potes maip" a bara caledlwyd oedd eu hymborth fynychaf, yn y tŷ arall yr oedd cawl bras llygadog, a chyflawnder o gig defaid. Ond yr oedd cryn amheuaeth yn nghylch gonestrwydd y teulu hwn, a llawer yn meddwl nad oedd defaid y cymydogion yn cael llonydd ganddynt. Pa fodd bynag, un noswaith yn nyfnder y gauaf dyna guro wrth y drws y ffermwyr a swyddogion cyfiawnder yn dyfod i chwilio y ty, a chafwyd digon o olion lladrad i gymeryd y gŵr i garchar ganol nos. Wrth glywed y swn a'r terfysg yn y tŷ dihunodd teulu y tŷ nesaf. "Wel, wel," meddai'r wraig, yr oeddwn i yn ofni mai fel yna y buasai'n dod. "O hirddrwg daw mawrddrwg." 'Drwg y ceidw diawl ei was.' Codwch Gruffydd. "Gad lonydd i mi," ebai Gruffydd, — Esmwyth cwsg potes maip, a rhoddodd ei ben ar y gobenydd, a chysgodd yn dawel dan y bore. "Llaw lân diogel ei pherchen." "Asgre lân diogel ei pherchen," medd diareb arall. Mae tlodi a gonestrwydd yn well na llawnder a lladrad: canys "Gwell angeu na chywilydd." "Gwell gochel mefl na'i ddial." "Gwell gwichio'r coludd na chochi'r ddeurudd."