Yr unig syniad neillduol i'r tymhor, yn y pennill yna, yw "lli yn nant," canys y mae'r nentydd oedd yn sychion yr hâf yn llifo gan wlawogydd y gauaf. Pethau gwastadol yw "cyfnewid Sais a'i ariant," arian a masnach yw ei awyddfryd ef erioed yn mhob gwlad, felly hefyd "mam geublant," sef llysfam, "dign" a diserch yw ei henaid hithau at "geublant," sef plant nad ydynt yn eiddo gwirioneddol iddi.
“ |
"CALANGAUAF—Cul hyddod, |
” |
Aeth yr Hydref, neu'r Hyddfref (rutting season) heibio, am hyny mae'r hyddod yn deneuon:-
“ | "Calan bydd—fref cain cynnwyre, Cyfarwydd dwfr yn ei ddyfrlle." |
” |
Mae blaen bedw wedi melynu, yn gyferbyniol i'r "bedw briglas" ddechreu haf. "Gweddw hafod." Trigai y Cymry gynt yn yr hafod yr haf, ac yn yr hendref y gauaf. Ddechreu haf gadawent yr hendref, a chychwynent tua'r hafod. Dyna'r cargychwyn. "Dyn cargychwyn yw dyn rhodiad, a fo yn symud ei gàr a'i fod bob amser." —Cyf. Hywel Dda. Yn y càr y rhoddent y celfi angenrheidiol i fyned i'r Hafod i odro'r gwartheg, y defaid, a'r geifr. Calangauaf oedd adeg y càrddychwel, sef dyfod a chynnyrch yr haf i lawr i'r hendref i fyw arno y gauaf, a gadael yr hafod yn weddw hyd yr haf nesaf.
“ | "Gwae a baedd mefl er bychod." | ” |
Mefl yw gwarth neu gywilydd. "Brychau a meflau," 'gweithiwr difefl." "Ni ddylir maeddu gwraig, namyn o dri achaws, sef, am roddi peth ni ddylys; am gaffael gwr arall genddi; ac am ddyuno mefl ar farf ei gwr." —Cyf. Cymru. "Gwell gochel mefl na'i ddial." "Mefl i'r llygoden untwll.” - Tri mefl fethiant gŵr bod yn arglwydd drwg, a bod yn ddryg-garwr, a bod yn llibinwr yn nadlau." Mefl in côg ni lyfo oi law.”
“ | Mefl ar dy farf yn Arfon,
Ac ar dy wefl mefl yn Mon."
|
” |
BYCHOD.
Bychod–bach, bychan, bychod, bychydedd, bychodrwydd, bychydig, &c. Peth bychan, ychydig o beth. "Gwell bychod yn nghod na chod wag." "Gormod yw bychod o bechodau." "Bychodedd o Gristionogion oedd