Tudalen:Cymru fu.djvu/328

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr amser hyny." " Na werth er bychodedd." "Baich o bechodau, nid bychodrwydd." "O bychydig y daw llawer." "Nid yw'rbyd ond bycbydig." Gan hyny ystyr y ddiareb yw, gwae y sawl a haeddo gywilydd o herwydd peth bychan, canys y mae yn fwy o warth i ddyn dori ei gymriad am ychydig nag am lawer.

CELWYDD.

Mae'r gair hwn wedi colli ei fonedd a'i barch er ys oesoedd lawer: ond bu unwaith yn arwyddo doethineb. Cel-gwydd yw ei haniad; nid celu o wydd, fel y dywed rhai, ond celwyddoniaeth-gwybodaeth geledig. Ogwydd y daw gwyddor, egwyddor, gwyddon, gwyddoniadur, &c. Gwybodaeth gyfrinachol y doethion oedd celwydd yn yr hen amseroedd. "Gwaith celwydd yw celu rhin." Ond yn nhreigliad oesoedd aeth y gair a ddynodai gyfrinion y celfydd i arwyddo peth croes i wirionedd.

CATH.

Clywais lawer gwaith ar lafar gwlad, "Ceiniog yw pris Cath yn mhen Tre Llundain." Bychan y gwyddwn fod y dywediad hwnw yn seiliedig ar gyfreithiau Hywel Dda. Dyma'r hen gyfraith, yn ol "Dull Gwynedd," wedi diweddaru y sillebiad. Gwerth Cath a'i theithi yw hyn:-

1. Gwerth cenaw Cath yw, o'r nos ei ganer hyd oni agoro ei lygaid, ceiniawg cyfraith. 2. Aco hyny hyd oni laddo lygod, dwy geiniawg cyfraith. 3 Agwedi y lladdo lygod, pedair ceiniog cyfraith, ac ar hyny y trig fyth. 4. Ei theithi yw, gweled, a chlybod, a lladd llygod, ac na bo twn yn ei hewin, a meithrin, ac nad yso ei chenawon; ac os ei phrynu a dderfydd, o bydd un o'r teithi hyn yn eisiau, adferer traian ei gwerth yn ol. Yn ol "Dull Gwent," teithi Cath yw bod yn gyfglust, gyflygad, gyfddanedd, gyflosgwrn, gyfewin, ac yn ddifán o dàn; a lladd llygod yn dda; ac nad yso ei chenawon; ac na bo gathderig ar flaen pob lloer.

Y neb a laddo Gath a warchatwo dŷ ac ysgubor y brenin, neu ai dyco yn lledrad, dodi a wneir ei phen ar y ddaear, a'i llosgwrn i fyny, a'r ddaear fydd ysgubedig, ac yna dineu (tywallt) grawn gwenith glân am dani (o'i chwmpas), oni chuddio flaen ei llosgwrn; a hyny o wenith yw ei gwerth. Y neb a ddalio gath yn llygota yn ei ardd lin, taled ei pherchenawg y llwgr.

Gallesid ychwanegu amryw o ddeddfau am Gathod; ond dengys hynyna fod "Cymru Fu" yn dra llawn o lygod, onide ni buasai Cath mor werthfawr.