Tudalen:Cymru fu.djvu/330

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y gwrid sydd ar dy ruddiau, gwirionedd ydyw hwn,
A'r Gallu anweledig yw cludydd cryf dy bwn!
Mae'th gyfrin fel yr yspryd, a'th ddysg o gylch y byd:
Lledneisrwydd a thirioni glân sy'n llenwi'th fron a'th fryd.
Traddodiad, Cof, a'r cyfan, O! rhoddwch help yn awr,
I adrodd digwyddiadau hen oesoedd blaen y wawr!
O! tyred Coel ddiniwaid, a thithau Hanes llwyd,
Rhowch olwg ar eich trysor drud, ac yna'm hawen gwyd
Ar edyn esmwyth ffansi, —i chwareu yn y gwynt,
Ac yna gwir olygfa gaf ar chwedlau'r oesau gynt,
Fel eira yn lloerenod ar fron y mynydd draw,—
Neu'r afon pan fo'r rhewynt blin yn rhoddi arni daw,—
Er ceisio llesg ymlusgaw,—y dwfr ei hun yw'r clo,
Am fod ei wyneb fel y dur,—mae dros y dw'r yn dô;—
Cyffelyb digwyddiadau, damweiniau dynolryw,
Er darfod ni ddarfyddant byth: er marw maent yn fyw.
Gan hyny fwyn Draddodiad, a'th acceniadau coeth,
Rho dro am unwaith etto ar hyd y bryniau noeth.
Perora nefol gerddi; melusber gerddi hud
A chwareu ar dy delyn aur nes cana'r creigiau mud.
Cyfuna oesau amser, dolenna barthau'r byd
A gloywa brudd-feddyliau bardd a goleu dwyfol fryd!
Hawddamor fyth-awenol! er fod dy iaith yn syn
Cawn rodio unwaith law-yn-llaw gerglannau'r gloyw Lyn.

II.

Eisteddai hên awenydd ar faen mwsoglyd gynt
A'i hirion wyn-gudynau a droellid gan y gwynt:
Ei delyn yn ei ymyl a'i phwys ar foncyff cam,—
Y delyn bêr a gafodd yn gofrodd gan ei fam.
Sibrydai ffrwd furmurog ar fron briallog fryn
Gan frysio tua'r gwastad er gloywi gwedd y glyn:
Gerllaw'r oedd hên fasarnen, —hoff le 'r ysguthan lwyd, —
O dan y deiliog gysgod, "Cwyn, cwyn," oedd cân y glwyd.
Pan oedd yn hanner huno daeth ato forwyn wen,
A'i gwallt yn grych-fodrwyog-frith-emmog gylch ei phen.
Dechreuodd rydd-ymddiddan ag acceniadau coeth:-


Y Chwifleian.

“Myfi yw morwyn Anian-Chwifleian ddiddan ddoeth:
Mae gennyf, fwyn Awenydd, gyfrinion dyfnion dysg,—
Danghosafddwfn ddirgelion,—dadlennaf chwedl y pysg,—
Mae Llyn yng nghesail bryniau ac arno donnau mân,
Bydd hwn yn fêdd diamdo morwynion glwysion glân."