Tudalen:Cymru fu.djvu/334

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V.

Bu'r dderwen fawr yn fesen: bu 'r afon ddofn yn ffrwd:
Bu 'r haul yn ddwl lygiedyn yn rhodio yn y rhwd:
Ond troellir gan Ragluniaeth a Thynged gibog gâs
Ddigwyddion byd yn sydyn hyd derfyn bywyd bâs.
Ymwawria 'r dydd yn raddol—a'r adar per eu cerdd
Ddyhidlent felus odlau yn nghudd y goedlan werdd;
A'r lleiniau teg meillionog, toreithiog lwythog le,—
Edrychent mor wyryfol a thyner lesni'r Ne'.
Tirioni a Thlysineb, y ddwy rodianant draw,
A blodau glân a blagur yn dusw yn eu llaw!
Gorweddai gwŷr Ardudwy gerllaw afonig lefn,
O'u blaen y dyffryn eang, a mynydd o'r tu cefn:
Torasant dalaith fedw,—plethasant hi yn hardd,
Brithasant hi a blodau yn addurn ael y bardd :
Dechreuodd yntau chwareu Alawon pêr ei wlad-
Alawon mwynlawn cariad sy'n llawn tymerau mâd.
Mor odiaeth lon edrychai gwyr tirion Meirion fro,—
Pan oeddynt yn ymolchi yn gryno ar y gro:
A Mervin;—dyn agored, a'i wyneb llawn yn llon;—
Dau lygaid du 'n serenu,-a'i rudd yn goch a chron:
Ysgwyddau llydain grymus, a'i wallt 'r un lliw a'r frân,
Yn arwr mewn gwirionedd ;—ond cariad oedd y gân!
Ond ofnai hyn yn erwin, a chofiai 'r breuddwyd hwn—
Yr ydoedd ar ei feddwl a'i bwys yn llethol bwn!
Un noson yn y gwanwyn daeth hunlle ar ei hynt,
Ac yn ei dull arferol fe bwysodd ar ei wynt.
Cyn hyny, gwelai rïan, yn cerdded yn y coed
Gyn laned ag un angel; ond gwelai am ei throed
Ryw gadwyn haiarn rydlyd a phwysau wrthi 'n dỳn:
Ar fynyd ciliodd ymaith, a suddodd i ryw Lyr.
Ond pan oedd hi yn cwympo daeth hunlle megis arth
A gwasgodd nerth ei enaid fel gwasga'r haul y tarth.

VI. Yr Awenydd.

"Dos draw i'r llwyn cyfagos ac eistedd ar y faingc
Sydd yno dan Grïafolen, a gafael mewn tair caingc:
Ymgroesa wed'yn deirgwaith, ac adrodd y tri gair,
Ac yna taer ddeisyfa, ymbiliau'r Forwyn Fair.
Daw Enid yno atat;-y brydferth Enid fwyn-
Anwylaf o'r anwylion i wrando ar dy gwyn.
Dos yno: gwyr y cyfan; Chwifleian ddiddan aeth
I'w denu i'th gyfarfod : a dwyn ei chalon wnaeth!