Tudalen:Cymru fu.djvu/341

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IOLO MORGANWG.

(GAN CYNDDELW.)

TYBIAF na bydd ychydig o nodiadau ar ddyn mor hynod a IOLO MORGANWG yn anghydweddol ag ysbryd ac amcan "CYMRU FU." Un o'r dynion rhyfeddaf a fagodd Cymru erioed ydoedd. Dyn isel yn y byd—dyn yn diystyru cyfoeth, ac yn hollol amddifad, mae'n debyg, o ddoethineb a chyfrwysdra y byd hwn. Mynai fod yn dlawd, gweithiai â'i ddwylaw i gadw ei deulu, ac ymroddai i'w swydd, fel Bardd a Derwydd,i gasglu pob math o wybodau dichonadwy iddo, yn enwedig gwybodau henafol a Chymruaidd; a bu farw mewn oedran teg, yn nghanol cyflawnder o ysgriflyfrau gwerthfawr, yn y flwyddyn 1826. Ni bu dyn mwy caredig, dyngarol, a dirodres yn rhodio daear erìoed. Nid oedd un aberth yn ormod ganddo i'w gwneuthur er lles eraill; a'i awydd a'i hyfrydwch penaf oedd cyfranu addysg i'r ymgeisydd ieuanc ac athrylithgar. Ond o herwydd gwreiddiolder ei olygiadau ar braidd bob peth, annibyniaeth ei farn, hynodrwydd penderfynol ei ddull, ac o herwydd iddo ymddangos mewn oes hynod o ragfarnllyd mewn pethau gwladol a chrefyddol, treuliodd ei oes faith a llafurus heb ennill y sylw a'r parch a ddylasai gan y cyffredin; yr oedd llawer yn elynion diachos iddo, ac ychydig yn ei fawrhau fel pe buasai brophwyd o'r nefoedd.

Dywedir i IOLO yn more ei oes benderfynu chwilio perfeddwlad America i edrych am y Madogwys; canys credid y pryd hwnw eu bod yn hawdd eu cael, dim ond myned i hela am danynt. Yr oedd IoLo yn gerddwr dihafal, a gallai gerdded llawer ar ychydig iawn o fwyd; ond barnai y byddai raid iddo ar ei hynt Fadogaidd oddef mwy o galedina chyffredin, am hyny bu yn caledu ei hun at y gwaith, yn pori glaswellt, yn cysgu allan, &c., nes i ddiffyg anadl, a phoenau ereill, ei argyhoeddi o'i gamsyniadau. Ystyrid IOLO yn dderwydd ymarferol, sef yn fab heddwch, yr hwn na ddynoethid arf yn ei wyddfod; eto mae cof am dano yn cefnogi y Dr. Dafydd Samwel i ymornestu a Ned Mon yn Llundain; ond barna rhai mai fel dyddiwr y cymerodd IOLO y swydd, yn hytrach nag fel cefnogwr y fath gyflafan. Pa fodd bynag, ni bu yno dywallt gwaed, canys ni ddaeth Ned Mon i'r maes. Dyna ffordd hynod i