feirdd a llenorion i roddi terfyn ar eu hymrysonau Eis teddfodawl.
Yr oedd bywyd Iolo yn hynod o ddiaddurn a chyntefig,
“ |
"O Ddawon afon yfai, Ac yn ei nerth canu wnai." |
” |
Dwfr, a llaeth, a thê oeddynt ei ddiodydd cyffredin; a phelled a hyn y gwrthbrofir, ynddo ef, yr hen haeriad—
“ | "Ni fu ddoeth a yfo ddw'r." | ” |
Yr oedd yr afonig Dawon yn gymydoges hoff ganddo, pan y rhodiai ar ei glenydd, ac yr yfai o honi.
Tybiaf fod Iolo yn fwy o feddyliwr na neb yn ei oes.
“ |
"Ni chytunai a Burnet, Whiston, Buffon, Whitehurst, na Hutton, yn eu dychymygion yn nghylch ansawdd ein daear, a'r achosion o'r annhrefn, neu yn hytrach y drefn bresenol o amrywiol osodiadau a sefyllfaoedd y gwelyau a'r colofnau o greigiau a sylweddau ereill yn ei harwynebedd. Yr oedd ganddo gyfundraith o'i eiddo ei hun.— |
” |
Mae yn anhawdd gwybod yn iawn pa beth oedd ei farn grefyddol. Nid oedd Waring, ei fywgraffydd, yn gwybod chwaith. Yn ei Salmau y gwelir mwyaf o'i syniadau crefyddol. Mae yn amlwg ei fod yn ddyn bucheddol a chymwynasgar, yn feddyliwr dwfn ar bethau dwyfol, fod ganddo syniadau goruchela pharchus am Dduw, ac am yr Ysgrythyr Lân fel amlygiad o'i ewyllys. Yr oedd y Diweddar Ddr. Jenkins, o Hengoed, yn gydnabyddusiawn a Iolo, a chlywais ef yn son cryn lawer am dano. Yn ol fel y dywedai ei gyffes wrth Dr. Jenkins, yr oedd efe yn Undodwr mewn rhai pethau, yn Grynwr mewn pethau ereill, yn Fethodist yn nhrefn y weinidogaeth, ac yn Fedyddiwr mewn bedydd. Nid oedd neb yn ei foddio yn mhob peth, ac yr oedd efe yn cymeradwyo rhywbeth yn mhawb. Soniai am ysgrifenu llyfr i ddangos fel yr oedd pawb yn cyfeiliorni, o dan yr enw—"Ymweliad y Diawl ag Eglwysi Cymru." Ond ni chyflawnodd ei amcan yn hyn fel mil o bethau ereill a fwriadodd. Gwir nad oedd Iolo, er ei holl wybodaeth a'i barodrwydd i gyfranu addysg, ond athraw gwael i'r dysgybl diathrylith. Yr oedd ei olygiadau ef yn wreiddiol braidd ar bob pwnc, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd yn erbyn pob plaid a syniad mewn crefydd ac athroniaeth; ond nid allai y dysgybl pendew lyncu dim ond y syniadau nacaol, ac felly ni ddysgent nemawr o ddim ond amheu a gwrthddadleu. Yr oedd tuedd naturiol yn hyny i ladd yspryd crefydd, ac i nychu dawn ac