Tudalen:Cymru fu.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athrylith; a'r canlyniad yw, na fagodd Iolo, er ei holl gymhwysderau cynhenid, cymaint ag un dysgybl gwerth son llawer am dano. Yr oedd awyr farddonol y Gogledd yn wahanol. Bu D. Ddu, G. Mechain, ac eraill yn fwy ffodus i gynnyrchu beirdd uchelryw ac awenddrud.

Er mai yr Undodiaid, neu y Sociniaid, fel eu gelwir, oedd yn hawlio Iolo fel brawd, eto mae'n debygol na bu efe erioed yn aelod eglwysig gyda hwy. Gellid meddwl mai aelod anhydrin mewn cymdeithas fuasai, oddigerth gydag ychydig o feirdd y rhai a edrychasent arno fel eu horacl. Ond dywedwn air eto am Iolo fel Emynwr. Cyfansoddodd tua thair mil o emynau, a thua thri chant o Erddyganau i'w canuarnynt. Dyna dystiolaeth ei fab, T. ab Iolo. Gan hyny mae 2500 o'i Salmau heb eu cyhoeddi eto; canys tua 500 o honynt sy'n argraffedig yn y ddau Lyfr. Mae ei Emynau yn rhagori mewm nifer ar eiddo Williams Pantycelyn, ac yn rhagori'n ddirfawr mewn celfyddgarwch hefyd. Wrth ystyried hyn, amledd ei fyfyrdodau ereill, gwaeledd gwastadol ei iechyd, a chyfyngder ei amgylchiadau bydol, yr ydym yn synu at amrywioldeb ei ddoniau, a'i ddiwydrwydd diflino. Wedi'r cwbl, ni ddaw Emynau Iolo byth yn boblogaidd yn Nghymru. Er nad oes ynddynt syniadau tramgwyddus i neb am a wn i, eto maent yn amddifad o'r elfen fywydol hono sy'n gwneud hymn yn flasus ac effeithiol. Nid yw cwymp dyn yn Adda a'i achubiaeth drwy angau Crist, yn un rhan o'i syniadau crefyddol; eto cydnebydd Iesu Grist fel athraw dwyfol wedi dyfod i ddysgu'r ffordd i'r bywyd, a gwynfydedigrwydd y sawl a wrendy arno, ac a'i dilyna. Nid oes yno ddim o'r newyn a'r syched am gyfiawnder sydd yn Emynau Williams. Mae Williams yn canu angen a phrofiad y werin yn eu dull a'u hiaith sathredig hwy eu hunain; a dyna athroniaeth ei boblogrwydd Emynol. Gosodwn rediad y Salmau yn ngeiriau yr hen fardd ei hun, fel diweddglo i'n hysgrif.

Dechreuodd Iolo ei lafur Emynawl ar ol cyhoeddi ei farddoniaeth Seisnig tua 1796, ar anogaeth y Dr. Gregory, y Dr. Kippis, Theophilus Lindsey, ac ereill. Ei amcan oedd "ysgrifenu rhyw faint o Salmau neu Hymnau Cymraeg, o'r cyfryw ag y gallai Cristionogion diragfarn, o bob enw a phlaid, ymuno ynddynt i folianu'r UN DUW A THAD OLL." "Amcenais gadw mor agos ag y medrai fy neall gwan i, at feddwl yr Ysgrythyrau; cymerais waith y Brenin Dafydd yn rhagddarlun imi, amcenais, er cloffed fy neall, ei ddilyn, ac ymgadw, mor agos ag y medrwn, at