Tudalen:Cymru fu.djvu/346

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy neu dair o goed ynn yn tyfu gerllaw iddo, allwyn o frysgyll tew heb fod yn neppell. Yr oedd yno hefyd bistyll yn y buarth; a thipyn yn mhellach draw yr oedd y fuches. O flaen y drws yr oedd llei'r ystenau godro, ac wrth y pen deheuol ryw ddwsin a hanner o gychod gwenyn yn rhes. Bellach, beth fyddai i ni fyned i'r tŷ i ro'i tro? Hen ddrws derw mawr heb brofi blas paent erioed: yna hen gul-fan eang: y llawr o gerig llyfnion yn lân. Trown i mewn ar y llawchwith. Dyma hen simneu fawr anwyl yn ddigon o'i maint i gynwys dau ddwsin ar unwaith: lle i gadw mawn yn y gornel bellaf. Tân ddigon i rostio eidion ar yr aelwyd, a dau neu dri o gŵn yn gorwedd yn hamddenol o'i flaen. Un ochr i'r gegin (oblegid yn y gegin yr ydym; a lle iawn yw hen gegìn lanwaith llawer man rhwng y bryniau)—un ochr y mae bwrdd, a hwnw gyn wyned a'r talch; nid calch dealler, ond talch; o'r tu draw, ar y silffoedd y mae rhesi o drenswriau cyn wyned ac yntau; dippyn yn mhellach y mae'r dressel; ben dresselddu: coed a dyfodd ar y tir yw ei defnydd. Y mae pedair llythyren ar ei phen uchaf, a'r flwyddyn y gwnaed hi mor amlwg a hyny. Yr oedd y platiau pewter gyn loywed ag y gellid gweled eì gysgod ynddynt. Yr ochr arall yr oedd hen gwpwrdd tri-darn: yroedd hwnw wedi cael eì wneud yn rhodd brïodas i dad-cu-hen-daid y gŵr!! Dyfaler felly ei oed. Yr oedd yno res o ystolion gwynion: a chryn lawer o gadeiriau derw da. Yr oedd. y llawr cerig yn llyfn ddisglaer, a fflamau'r tân yn gwenu wrth weled eu llun yn mhob peth o'u deutu. Dyna Flaen y Glyn i chwi.

Yn awr i ddechreu ar ein chwedl. Y mae mwy na deugain mlynedd er pan y digwyddodd yr olygfa. Ac fel hyn y cymerth y peth le. Yr oedd hiyn brydnawn heulog;—ond dihangodd yr haul dros gribau y mynyddoedd: a gadawodd ni i gymeryd ein siawns pan yn croesi o'r Griafolen rhyngom a'r Bwthyn llwyd lle trigai'n mam. Pan oedd cysgodion y nos yn ymwasgu am danom, daeth hen chwedlau a chofion ein maboed ì'n meddwl yn dryblith drablith. Brasgamu yr oeddynt yn mlaen, oblegid nid oedd ugain mlynedd wedi llwyr ddileu oddiar y meddwl yr hen lwybrau a gerddwyd cenym pan yn crwydro ar ol defaid ein rhieni. Ar ol hir chwysu daethpwyd o'r diwedd i ben gallt serth, a chlywem oddi tanom ryw sŵn siarad; ambell i chwerthiniad llawen, a sibrwd adseiniol. Eisteddwyd am enyd ar hen faen mwsoglyd. Cyfarthai y cŵn wrth un fan, ac attebid hwy gan gwn o'r ochr arall