Tudalen:Cymru fu.djvu/347

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r Cwm. Rhedai mil-fil o feddyliau ar draws eu gilydd yn yr enaid, fel gwybed bach ar hwyrnos yn Mehefin. Ond codwyd, ac aed i lawr o lêch i lwyn. Weithiau byddem mewn caregle garw, bryd arall ar lecyn mor esmwyth â'r melfed; croeswyd ffrwd o ddwr, ac odditanodd yr oedd cornant yn frydar ei felusgerdd un-dônol. Ond yn nghesail y bryn gerllaw gwelem oleu. Cofiwyd pa le ydoedd, ac unionwyd ato gyn gynted ag y gellid. Wedi curo wrth y drws: er nad oedd eisiau hyny er mwyn cael gwybod a oedd neb yn y tŷ, oblegyd yr oedd digon o dwrf o'r tu mewn, yn profi hyny yn ddigon amlwg i bawb o'r tuallan. Daeth y ferch i'r drws, ac i mewn a ninau. Yr oedd yno gryn ddwsin o ferched o wahanol oed, a phedwar neu bump o hen bobl yn ymgomio yn ddifyr wrth y tân. Cyfarchwyd gwell; ac yr oedd yno rai oedd yn cofio ein taid yn las-lefnyn: ac un hen wraig wedi bod ganwaith hefo ein nain yn Ngwyl Mabsant y Llan. Yr oedd Blaen y Glyn yr un fath yn union ag oedd pan oeddym wedi bod yno cyn gadael ein hen fro gynhenid. Yr hen gloc, gwyneb du felyn yn y gornel wrth ochr y cwpwrdd tri-darn, &c. Wedi eistedd, erfyniwyd arnom aros yno i gael rhan o'r difyrwch, a phenderfynwyd yn ddigon diseremoni. Yr oedd y bechgyn, meddynt, yn tanio'r coelcerth ar ben y Bryn, ac yr oeddynt oll i dd'od yno yn union deg i godi afalau o'r dw'r ; i ro'i cnau yn y tân er mwyn cael gwybod tesni: ac yr oeddynt hefyd yn disgwyl Rhydderch y Crythor yno. Ar ol bod yn y tŷ am ryw ddeng mynyd,a chael cynyg rhywbeth yn fwyd o leiat deirgwaith yn ystod pob mynyd o'r cyfamser, awd allan yn nghwmni tair neu bedair o'r genethod i weled y Coelcerth. Erbyn hyn yr oedd wedi ei danio, a'i oleu yn gwneyd y Cwm o ben i ben felun ganghell Eglwys ysplen- ydd ar fore y Nadolig. Rhoddai wrid i'r afon gordeddog; a grym yn nghochni hydrefol daily coed. Canai y bechgyn; chwarddai y plant; a chyfarthai y cŵn, a llawenhaem ninau. Ond dyma rywun yn d'od! "Pwy ydyw tybed?" ebai y naill wrth y llall. "Pwy ydwyf? ond Rhydderch y Crythor debyg" ebai llais dwfn yr hên fachgen. "Wel," ebe merch Blaen y Glyn, "Iechyd i dy galon di Rhydderch, yr oedd fy Nain yn dweyd na fethaist di ddim unwaith a do'd yma er's mwy na deugain mlynedd." "Pawb yn iach gobeithio," meddai yr hen Grythor: "O," ebe hithau, "pob peth fel arferol. Mi fyddwn yn dechreu arni gyn gynted ag y daw'r bechgyn o ben y Bryn. Aethom yn ôl hefo'n gilydd i'r tŷ: a chyn pen