Tudalen:Cymru fu.djvu/350

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griafol, neu o'r Meth, yn hwylio am fod yn barod i wrando ar Rhydderch yn rhwbio ei Grwth. Mymiai f' ewyrth Reinallt mai canu pennillion oedd y goreu, ac nid oedd. neb A feiddiai groesi yr hen fachcen. Felly dechrenwyd o ddifrif hogi arfau. "Pawb a'i bennill yn ei gwrs," oedd y drefn, ac nis esgusodid hen nac ieuangc. Dyma ddechreu rhwbio'r tanau, a'r rhai hyny yn gwichian ar y cyntaf, yn waeth eu sŵn na chant o gywion dallhuanod pan yn ymladd a'u gilydd. Ond chware teg i'r hen law, medrodd o'r diwedd gyweirio ei hen offeryn, a chafwyd llawer darn digon di falc ganddo cyn darfod. Chwareuodd "Serch Hudol," i ddechreu, a tharodd Hen ŵr Blaen y Glyn y pennill cyntaf o "Forwynion Glan Geirionydd" yn odiaeth dda; dilynwyd ef nes aed dros y Gân. Yn y fan hon, newidiwyd y dôn. Ond y mae'n fwy nathebyg, ernewid y dôn, mai yr un oedd miwsig calon fri neu bedwar oleiaf yn y fana'r lle! Aeth y Crythor yn ei flaen, ac erbyn hyn, yr oedd clic y gweill weditewi, a phawb o lwyrfryd calcn yn gwylio ei adeg. Ond pan ddaeth amser Twm Pen Camp i ganu, (cenaw ystumddrwg ofnadwy, fel yr oedd yn hawdd gweled wrth ei lygaid, oedd Twm,) ac fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod efe oedd i ganu yn nesaf, ar ol f'ewyrth Reinallt Wmffra, yr hwn, er bod ei lais yn crynu, a ddatganodd yn bur dda, chwareu teg iddo. —A thyma Twm yn dechreu ar ei ol ef, a thyma ei bennill :

'Roedd ci gan Reinallt Wmffra
Yn firiad arei fera',
Ac yn ci fyw ni ddringai riw—
Mor waned ei gymala'.

"Gyn siwred a mod i yma mi 'th darawaf di Twm," ebai yr hen Reinallt, ac yn chwilio am ei ffon mewn ffwdan gwyllt, "Gwna, nid elai byth o'r fan yma," ebai, a thyna bawb mewn llewygon. "Wel, arhoswch f'ewyrth Reinallt," meddai Twm, "mae ail gynygi Gymro gael." Felly, ar ol i bawb ro'i goreu i chwerthin, a'r hen ŵr ddo'd dipyn atoei hun, dyma'r Crythor yn dechreu rhwbio drachefn: yna daeth Twm allan yr eiltro, a chanodd fel hyn:

Pan oedd y ci ryw noson
Yn ceisio crafu'r crochan,
'Roedd Reinallt Wmtfîra a Mari Sion
Yn cynal bon ei gynffon.

"Os drwg cynt, gwaeth gwedy'n." Yr oedd Reinallt am ddarn ladd Twm; chwiliai am ei ffon, a bygythiai ei