Tudalen:Cymru fu.djvu/352

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

codwyd y darn i fynu, ac erbyn edrych, yr oedd haner y cnewyllyn yno: cadwasom ef yn ofalus mewn mynyd. Ni fynai'r genethod ereill gynyg am goel. Yr unig un, ar ol hir grefu, a dreiodd, oedd Cadi Reinallt. Hên lodes ryfedd oedd hon, nad oedd hyd yn oed amser yn gwneyd dim o'i ol arni wrth fyned heibio. Rhyw bwtan fêr wedi gwneyd bargen dda yn ffair y trwynau ydoedd; a llawer byd o ysmaldod a hylldod yn perthyn iddi. Ond druan oedd Cadi! ni wnai ei chneuen hi ond mud—losgi, heb un arwydd clec yn agos ati. Yn y cyfamser, yr oedd Rhydderch yn rhydd-ymgomio; a'i hen ffidil a'r bwa, un pen a'i bwys ar ochr ei glun, a'r pen arall ar y llawr. Yr oedd Twm Pen Camp yn bwyta brechdan a chaws heb fod yn neppell oddiwrtho. A thra yr oedd y Crythor wrthi yn adrodd wrthym hanes ryw Fwgan oedd wedi d'od i'w gyfarfod yr wythnos cynt, wrth fyned adref o ryw noswaith lawen; cymerth Twm yr ymenyn oddiar ei fara, a rhwbiodd y tanau a'r bwa ag ef. O'r diwedd, daeth un o'r cŵn heibio, a dechreuodd lyfu'r ffidil. "Holo!" ebai Cadi Reinallt, "y mae Mottyn am ro'i tiwn i ni, f'ewyrth Rhydderch." Cipiodd yr hen fachgen y ffidil ar ei lin, a dyna fu am y tro. Yr oedd hi erbyn hyn wedi tynu yn hwyr; ond yr oedd yn rhaid cael un dôn wed'yn cyn cadw noswyl. Felly penderfynwyd, ar gais Morgan Llwyd, cael yr hen dôn swynol "Anhawdd ynadael." Dyma'r hen Rydderch yn hel ei gelfi, ac yn rhoi ei hun mewn ystum deilwng. Ond pan ddechreuodd rygnu nid oedd dim sŵn. Ail-gynyg. Dim gwell. Ceisio wed'yn; ond dim yn tycio; a chafodd Mottyn druan y bai. Yr oedd yr hen Grythor am ladd y ci, a phawb yn ei ddondio yn arswydus. Felly ar ol i'r cymydogion gael corniad o Feth bob un, a chanu nos da'wch, aeth pawb adref yn un a chytûn; f'ewyrth Reinallt wedi llwyr anghofio pob peth, oddigerth penillion Twm Pen Camp. Huw Bifan yntau ar ol cael un cip-olwg ar lygaid Gwen, a gychwynodd a'i galon yn llawn o serch. Cadi Reinallt hithau, er gwaethafanffawd y gneuen, a edrychai mor llon a'r gôg ar frig y ganghen. Yr oedd hi a'i meddwl ganthi. Gwyddai y deuai dydd ar ol nos; ei bod hi eisoes yn dechreu blawrio. Ar ôl i bawb ymadael, cawsom ninau hir ymddiddan hefo theulu'r tŷ. A rhywbryd cyn toriad y dydd, aeth pawb i'w hûn a'u heddwch. Ond eri mifyned i ystafell o'r neilldu, yr oedd pob peth yn clecian o'm cwmpas. Yr oedd y grisiau wrth imi fyned i fynu yn clecian. Yr oedd y llotft wrth i ni ei cherdded yn clecian. Yr oedd y gwely wrth i mi orwedd