Tudalen:Cymru fu.djvu/353

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn clecian. A phob tro a roddais ynddo, yr oedd yn clecian. Ac ni wnaethi hyn nac ychwaneg, yr oedd rhywbeth yn ein calon ninau yn clecian. Pan hunem gysgu, yr oedd y glec yn ein deffro. Pan ddeffroem yr oedd y clec yn ein süo yn ol drachefn.

Bore dranoeth, pan aethom i lawr, pwy oedd yn cyfarfod wrth droed y Grisiau ond Gwen Llwyd : dyna glec eto. Ar ôl boreubryd, fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod, aethom allan, a phwy oedd wrth y pistyll yn golchi cunog ond Gwen; gofynwyd iddi'r cwestiwn, ac o dan gwmwl o wrid, daeth y giec i ben. * *

Mae Nôs Galangauaf yn anwyl byth wedi hyn. Ac y mae'r plant a Gwen a minnau yn hoffi'r swynol noson, a phob tro y daw ar gylch byddwn yn bwyta cnau, ac yn yfed Meth er côf am y glec gyntaf yn Mlaen y Glyn.

DAFYDD Y GARREG WEN.

GAN GLASYNYS.

Rywbryd, pan ar fy mhererindod "Yn fy anwyl hen Eifionydd," fe ddigwyddodd i mi gyfarfod â dyn ar ddamwain; os oes y fath beth a chyfarfod ar ddamwain yn bod ? Hyn sydd amlwg, fodd bynag, na wyddai ef ar faes medion y ddaear pwy oeddwn i, ac nad oedd dim peth mwy anfwriadol ar fy rhan inau, na dechreu siarad âg ef; ond fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod, i siarad yr aethom, ac ni bu yn edifar genyf ddechreu. Ni wnaf ddesgrifio fy nghydymaith; ond troaf ar fy union yn ei gwmni i fonwent Ynys Cynhaiarn. Beddau aml a cherrig coffhaöl destlus! Pob peth yn lanwaith gryno : ac nid wyf yn meddwl y ceir cymaint o englynion beddargraph da mewn un fonwent yn Nghymru! Wrth rodio yn ol ac yn mlaen o gylch y beddau, daethom o'r diwedd at feddfaen wahanol i'r lleill. Carreg a llun telyn arni! Dechreuais ddarllen, a chanfum yn ebrwydd mai bedd Dafydd Owen, neu Dafydd y Garreg Wen, ydoedd. Ar ol syllu ennyd ar fan fechan ei fedd, gofynais ychydig o hanes y Telynor. Gan fod yr hin yn lled frwd, aethom ein deuodd i Borth y