Tudalen:Cymru fu.djvu/354

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fonwent, ac yno yr eisteddasom i rydd ymgomio am hwn a'r llall, ac ym mysg y cofianau a roed i mi o'r rhai sydd yno'n huno, dywedodd fy nghyfaill wrthyf mewn dull syml a diseremoni, rywbeth yn debyg i hyn am DAFYDD OWEN, neu Ddafydd y Garreg Wên. Yr oedd ei rieni yn byw mewn Tyddyn lled fychan ym mhlwyf Treflys. Merch lle o'r enw Issallt oedd hi, a'i henw bedydd oedd Gwen. Teulu pur glyfar am feddyga oedd teulu Issallt, a dywedir eu bod yn deilliaw lin o lin o FEDDYGON MYDDFAI, sef o Rhiwallon a'i Feibion, (ac y mae teulu Dolffanog hefyd yn deillio o'r unrhyw.) Yr oedd Gwen yn medru prydyddu ambell i bennll siawns, ac yn hoff odiaeth o ganu hefo'r delyn. Nid ydwyf yn cofio, pe trigwn, pwy na pha beth oedd enw ei gŵr: ond yn y Garreg Wên yr oeddynt yn byw. Bu iddynt amryw o blant, ac yn eu mysg Dafydd. Nis gwyddis pa bryd y dechreuodd gyweirio telyn, ond gellid coelio yn hwylus i hynny gymeryd lle pan. oedd yn bur ieuangc. Gartref yr oedd Dafydd hefo'i dad a'i fam. Aeth Rhys, brawd iddo, i ffwrdd, a throes allan, ar ol hir grwydro draw ac yma, yn arddwr i ryw ŵr boneddig yn Ysgotland. Byddai Dafydd yn arfer cadw nosweithiau llawen mewn gwahanol fanau yn fynych. Daeth yn gerddor medrus, ac aeth son am dano ar draws ac ar hyd y wlad. Rywbryd pan oedd yn dyfod adref un bore yn nechreu hâf, ar ol bod yn chwareu mewn palas heb fod yn neppell o'i gartref, eisteddodd ar faen mwsoglyd, a rhoes bwys ei ben ar ei delyn: y mae'n debyg ei fod wedi blino wedi bod wrthi hi trwy gydol y nos... Cododd yr hedydd o'i wely gweiriog yn ei ymyl i achub blaen y wawr, a dechreuodd hidlo cân. Fely dywedodd rhywun am dano,—y mae'n debyg y teimlai Dafydd :—

"Fel cwmmwl uwch y gweunydd, yn hidlo odlau blith
Ymgodai'n syth, a'i esgyll yn wlyb o berlog wlith
Yr Hedydd lafar hudol, a'i gu awenol gan,—
Fe wlawiai yn gawodau ei fwyn Emynau mân."

Cyffelyb, yn ddiddadl, oedd o flaen Dafydd; ac ar amrantiad d yma'r hên orchudd i ffwrdd oddiam y delyn, a chwareuodd y Cerddor GODIAD YR HEDYDD: un o alawon pereiddiaf, a mwyaf dynwaredol, a fêdd Cymru! Ryw dro arall yr oedd wedi blino gartref, a chychwynodd, a'i delyn ar ei gefn, i chwilio am ei frawd Rhys; ac ar ol hir grwydro, daeth o hyd iddo, draw yn mryniau'r Alban, a bu yno'n aros mewn parch a llawenydd am hir amser. Wedi blino yno, a phan ar gychwyn tuag adref, gofynodd y boneddwr, gyda'r hwn yr oedd ei frawd yn aros, am