Tudalen:Cymru fu.djvu/355

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dôn ganddo fel coffhâd o'i arhosiad yn y fan a'r lle. Pa beth a wnaeth Dafydd ond rhoddi iddo'r dôn oedd newydd wneyd cyn cychwyn oddicartref, erbyn Gwylmabsant Criccieth, sef, Difyrwch Gwyr Criccieth, a galwyd hi yn yr Alban yn Roslin Castle. Ar ol iddo ddyfod yn ol, yr oedd yn amlwg ddigon nad oedd teithio wedi gwneyd llawer o ddaioniiddo. Yr oedd yn pesychu yn enbyd. Ei lygaid wedi suddo i eigion ei ben. Ei wyneb dealltwrus a welwai, a gwelid argoelion fod angau yn chwareu alaw leddf ar delyn ei fywyd! Curio wnaeth; ac nid yn hir y bu heb orfod rhoi goreu i dynnu'r tannau, o herwydd yr oedd ei nerth yn rhy egwan: ond er hynny, bob tro y caffai awr led ddiboen, ymlusgai at ei hen offeryn, a chwareuai rai,

O'r hen Alawon tyner
Sydd wedi tynnu deigr o lygaid amser."

Parhâu i wanychu yr oedd, ac o'r diwedd, prin y medrai adael ei wely. Un. diwrnod edrychai yn bur gysglyd; gwylid ef yn ddyfalgan ei anwyl fam. Pan yn ei wylio, gwelai fath o wên ar ei wynebpryd, a chanfyddai ei fysedd yn ystumio yn olac yn mlaen. Daeth ei wêdd hefyd i edrych fel yr oedd cyn iddo fyned yn sâl. Llenwai'r pantiau, ac ymledai ei foch-gernau! Ofnai Gwen ei fod yn marw! Ond ar fynyd, agorodd ei lygaid, a dywedodd, er yn floesg, "O! mam, mi welais y peth harddaf a welodd neb erioed!". Yna tynnai ei anadl yn hirllaes, a rhoes rhyw haner tro ar ei ben; ac yna aeth yn mlaen,— "Ni chlywais i erioed o'r blaen y fath ganu! Y Miwsig! O! mam, rhowch i mi fy nhelyn! Medraf, mi fedarf chwareu hono!" Yna syrthiodd i fath o bêr—lewyg esmwyth. A'i fam yn ei wylio; pwy wyr nad oedd hithau yn gweled rhyw oleuni drwy'r dagrau gloywon a ddylifiai o'i dau lygad tyner. Fel ag yr adbelydrir goleu yr haul yn y manwlith; pa'm nad ad-dywynai dwyfoldeb yn ei heiddo hithau ? Deffrodd Dafydd yr eiltro, a gofynai hefo'i olwg yn gystal ag hefo'i lais, "A gaf fi, mam anwyl, fy nhelyn amunwaith eto?" Pwy fedrai ei ommedd . Nid Gwen: nid y fam. Dygodd y delyn i mewn. ac araf a thyner gododd y Telynor; a rhoes ef i eistedd ar echwyn y gwely. Rhoes glustogau a gobenyddiau i'w gyna lnes yr oedd fel mewn cadair. Ac yna

Dechreuodd DAFYDD chwareu;—a'i fam gynhaliai 'i ben—
O'r tanau mwyn y tynnodd HEN ALAW 'R GARREG WEN.