Tudalen:Cymru fu.djvu/356

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol cael ei wala ar yr hen delyn, rhoed ef yn ol yn ei wely, a theimlai ei hun yn llawer gwell a mwy diboen. Ar ol gorphwys gronyn, dywedodd wrth ei fam pa fodd y dysgodd y don. Yr oedd, meddai, wedi bod mewn byd arall. Dyma ei eiriau :—" Gwelwn fy hun mewn gwlad goediog: pob deilen yn werddlas: pob brigyn yn îr, a phob canghen yn llawndwf. Y gwrychoedd yn ddail i gyd, a'r dolydd yn llawn o feillion aroglber. Yr afonydd yn loywon, ac yn araf ddiog lithro, heb sŵn na dadwrdd. Gwelwn fy hun wrth Neuadd hardd; ac o flaeny drws yr oedd gardd lysiau. Mewn deildŷ, yng nghongl yr ardd, clywwn rywun yn chwareu ar y delyn; a'r alaw oedd yr hon a chwareuais i, mam. O flaen y deildŷ, yr oedd dwy golomen lwydlas yn gwrando. Aethum yn araf a digon gostyngedig at y fan a'r lle, ac er fy mawr syndod, nid oedd yno na thelyn na pheth. Synnais beth wrth hyn. Ond etto, yr oedd y canu yn para; a pha beth oedd ond Yr awel yn d'od o'r berllan i'r deildŷ, drwy wiail wedi eu cordeddu! O! mam! fel yr oeddwn yn blysio i chwi gael clywed canu! Ond ni welwn yn fy myw neb ond y ddwy golomen. Ar hyn mi ddeffroais, a gwelais chwi, fy mam anwyl," Distawodd; ac amlwg oedd ei fod wedi llesgâu, a bod ei "ddaearol dŷ" yn prysur ddadfeilio,—fod ei luesttŷ yn cael ei brysur ddattod. Chwibianai Angau, ei alargerdd, yn ei fonwesei hun! Bu fyw am ychydig o ddyddiau: a'i fam a ddywedodd y cyfan a ddywedodd Dafydd wrth ei chydnabod. Yr oedd hi yn medru yr Alaw hefyd ar dafod leferydd, ac nid oedd dim yn lloni y Telynor yn fwy na chlywed ei fam yn canu'r Alaw Newydd.

Cyn hir, fe hunodd! Aeth adref i ardal lonydd yr aur delynau!

"Claddwyd ef yn yr Ynys yma," ebai'r Cofiadur; "a thyma'i fedd. Ar ddiwrnod ei ganhebrwng, yr oeddis yn canu'r Alaw, o'r Garreg Wen bob cam i'r Eglwys, ac hefyd ar lân y bedd! Ond y peth rhyfeddafo gwbl ydoedd, i ddwy golomen dd'od at dŷ'r Garreg Wên pan ddygwyd y corph allan i'r drws, ac i'r ddwy ddilyn yr elor o hyd, drwy gydol y ffordd;—iddynt fyned i'r Eglwys, ac aros yn llonydd yno tra buwyd yn darllen y Gwasanaeth; a phan aed at lân y bedd yr oeddynt hwythau yn ymyl yr arch. Ond pan ddywedodd yr Offeiriad "Daear i'r ddaear pridd i'r pridd, lludw i'r lludw," ehedodd y ddwy ymaith, ac ni's gwelwyd mo'nynt mwy!" A thyna gefais i o hanes DAFYDD Y GARREG WEN.