Tudalen:Cymru fu.djvu/365

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y blaned fu'n hir i'm blino—madwys
I'm ydoedd niweidio;
Ni chad Angharad o ngho'—
Eingan aeth i ti'n angho'.

Eithr nis gallai hi ei atgofio. Yna y dywed ef wrth y Gwahoddedigion:—

Os collais a gerais, deg eirian—ei nwyf
Merch Ednyfed Fychan,
Ni chollais, ewch chwi allan,
Na'm gwely, na'm tŷ, na'm tân.

Ac yna rhoi'r ffon wen a wnaeth yn llaw Angharad, a hi welai yr Ellyll, a welsai hi o'r blaen yn bendefig urddasol, yn anghenfil anfeidrol ei anferthwch, a llewygu gan ei ofn a wnaeth hi, ac Einion a'i hymgeleddes. A phan agores hi ei llygaid nis gwelai yno na'r Ellyll, na neb o'r Gwahoddedigion, na neb o'r cerddorion, na dim yn y byd ond Einion, a'i mab, a'r delyn, a'r tŷ yn ei drefn gartrefol, a'r ciniaw ar y ford ac eistedd i lawr i'w fwyta a wnaethant Einion, ac Angharad, a'u mab Einion, a mawr iawn oedd eu llawenydd, a gwelsant yr hud a roddes yr Ellyll cythreulyw arnynt.

Ac oddiwrth hud o ddigwydd gwelir mai serch ar degwch a mwynder rhianaidd yw yr hud mwyaf ar ŵr; a thrachwant urddas a'i rodres a'i gyfoeth yw'r hud mwyaf ar wraig; ac nis anghofia gŵr ei wraig briod oni edrycho efe ar degwch merch arall; na gwraig ei gŵr priod onis edrych ar gyfoeth a golud, ac anrhydedd o rodres arglwyddaidd a gwychder balchineb. Ac felly y terfyna.

Hopkin ap Thomas o Dir Gwyr a'i gwnaeth, ebe'r IOLO MSS.

JAC Y LANTERN

(Oddiar Lafar Gwlad)

Y PETH a glywais ganwaith, a ysgrifenaf unwaith. Er's llawer dydd, yr oedd hen ŵr yn byw ar fynyddoedd Arfon a adwaenid wrth yr enw Sion Dafydd, Bwlch y Ddauafaen. Mae y Bwlch hwnw agos i haner y ffordd rhwng Llanbedr ac Abergwyngregin. Ond at yr hen ŵr a'i hanes. Yr