Yn Hafod Elwy'r gog ni chân,
Ond llais y frân sydd amla';
Pan fo hi decaf ym mhob tir,
Mae hi yno yn wir yn eira.
Llun y delyn, llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droiau;
Tan ei fysedd, O, na fuasai
Llun fy nghalon union inau!
Awel iachus sy'n mhen Berwyn,
Lle i weled llawer dyffryn;
Ac oni bai'r Arenig ddiffaeth,
Gwelwn wlad fy ngenedigaeth.
Ni chân cog ddim amser gaua',
Na chân telyn heb ddim tanna';
Ni chân calon, hawdd iwch wybod,
Pan fo galar ar ei gwaelod.
Sawl a feio arnaf beied,
Heb fai arno, nac arbeded;
Sawl sy' dan eu beiau beunydd,
Fe eill rhei'ny fod yn llonydd
Dacw'r llong a'r hwyliau gwynion,
Ar y môr yn myn'd i'r Werddon:
Duw o'r nef, rho lwyddiant iddi,
Er mwyn y Cymro glân sydd ynddi!
Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gant fynd i'r fan a fynon—
Weithiau i'r môr, a weithiau i'r mynydd,
A d'od adref yn ddigerydd.
Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion
Sy'n y nef ym mhlith angylion.
Yr un ni charo dôn a chaniad,
Ni cheir ynddo naws o gariad;
Fe welir hwn, tra byddo byw,
Yn gas gan ddyn, yn gas gan Dduw.
Cleddwch fi, pan fyddwyf farw,
Yn y coed dan ddail y derw;
Chwi gewch weled llanc penfelyn.
Ar fy medd yn canu'r delyn.