A mi'n rhodio mynwent eglwys,
Lle'r oedd amryw gyrph yn gorphwys,
Trawn fy nhroed wrth fedd f'anwylyd,
Clywn fy nghalon yn dymchwelyd."
Gwedwch, fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roed ynddo,
Nas darfyddai wrth ei wisgo?
Blodau'r flwyddyn yw f'anwylyd,
Ebrill, Mai, Mehefin hefyd;
Llewyrch haul yn t'wynu ar gysgod,
A gwenithen y genethod.
Geiriau mwyn gan fab a gerais,
Geiriau mwyn gan fab a glywais;
Geiriau mwyn ynt dda tros amser,
Ond y fath a siomodd lawer.
Mwyn, a mwyn, a mwyn yw merch,
A mwyn iawn lle rhoddo'i serch;
Lle rho merch ei serch yn gynta',
Dyna gariad byth nid oera.
Tro dy wyneb ata'i 'n union;
Gyda'r wyneb tro dy galon;
Gyda'r galon tro d'ewyllys;
Ystyria beth wrth garwr clwyfus.
Lle bo cariad y canmolir
Y rhyw ddyn yn fwy na ddylir;
Ond, le byddo digter creulon,
Fe fydd beiau mwy na digon.
Tros y mor mae'r adar duon;
Tros y mor mae'r dynion mwynion;
Tros y mor mae pob rhinweddau;
Tros y mor ma'm cariad inau.
Melys iawn yw llais aderyn
Fore haf ar ben y brigyn;
Ond melusach cael gan Gweno
Eiriau heddwch wedi digio.
Mae cyn amled yn y farchnad
Groen yr oen a chroen y ddafad,
A chyn amled yn y llan,
Gladdu'r ferch a chladdu'r fam.