Tudalen:Cymru fu.djvu/374

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond ydyw yn rhyfeddod
Bod danedd merch yn darfod;
Ond, tra yn eu geneu chwyth,
Ni dderfydd byth ei thafod,

Robin goch sydd ar yr hiniog,
A'i ddwy aden yn anwydog;
A ddyweda mor ysmala,
"Mae hi'n oer, fe ddaw yn eira."

Caued pawb ei ddrws yn sydyn
Mae'r eira'n barod er ben Berwyn;
Hilyn gwyn i hulio'n Gwanwyn
Ddaw i lawr a rhew i'w ganlyn.

Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionydd:
Na chawn unwaith olwg arni,
Cyn i'm calon dirion dori.

Rhywun sydd, a Rhywun eto,
Ac am Rywun 'rwy'n myfyrio;
Pan f'wyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw Rhywun ac a'm deffry.

Bum yn claddu hen gydymaith,
A gododd yn fy mhen i ganwaith;
Ac yr wy'n anmheu, er ei briddo,
Y cyfyd yn fy mhen i eto.

Blin yw caru yma ac acw,
Blin bod heb y blinder hwnw;
Ond o'r blinderau blinaf blinder,
Cur annifyr caru'n ofer.

Mi ddarllenais ddod yn rhywfodd
I'r byd hwn wyth ran ymadrodd;
Ac i'r gwragedd (mawr lles iddynt)
Fyn'd å saith o'r wyth—ran rhyngddynt

Lle bo cariad y canmolir
Mwy, ond odid, nag a ddylir;
A chenfigen a wŷl feion
Lle na byddo dim achosion.

Medi gwenith yn ei egin
Yw priodi glas fachgenyn;
Wedi ei bau, ei gau, a'i gadw,
Dichon droi'n gynauaf garw.