Tudalen:Cymru fu.djvu/375

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwae a gario faich o gwrw
Yn ei fol i fod yn feddw:
Trymaf baich yw hyn o'r beichiau,
A baich ydyw o bechodau.

Hwn yw mam y cam a'r celwydd,
Lladd, a lladrad, ac anlladrwydd:
Gwna gryf yn wan, a gwan yn wanach,
Y ffel yn ffol, a ffol yn ffolach.

Tebyg ydyw morwyn serchog
I fachgen drwg mewr tŷ cymmydog:
"A fyni fwyd?" "Na fynaf mono"
Eto er hyny yn marw am dano.

Canu wnaf a bod yn llawen,
Fel y gog ar frig y gangen;
A pheth bynag ddaw i'm blino,
Canu wnaf a gadael iddo.

Llawn yw'r môr o heli a chregyn;
Llawn yw'r wy o wyn a melyn;
Llawn yw'r coed o ddail a blodau;
Llawn o gariad merch wyf finnau.

Yn nglan y môr mae ceryg gleision;
Yn nglan y môr mae blodau'r meibion;
Yn nglan y môr mae pob rhinweddau;
Yn nglan y môr ma'm cariad innau.

Dacw f'anwyl siriol seren,
Hon yw blodau plwyf Llangeinwen;
Dan ei throed ni phlyg y blewyn,
Mwy na'r graig dan droed aderyn.

Ni thoraf fi mo'm calon lawen,
O drymder gwaith a wnaeth un bachgen:
Trech yw natur na dysgeidiaeth;
Rhodiaf beth,—nid wyf ond geneth.

Mi feddyliais ond priodi
Na chawn ddim ond dawnsio a chanu;
Ond beth a ges ar ol priodi,
Ond siglo'r cryd a sio'r babi.

Siglo'r cryd â'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd â'm troed wrth olchi,
Siglo'r cryd yn mhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy' raid i famaeth.