Tudalen:Cymru fu.djvu/376

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gochel neidr mewn gardd lysiau,
Gochel fab a'i fwynion eiriau;
Os caiíf hwnw'n llwyr dy feddwl,
Cilio wna fel haul dan gwmwl.

Tri pheth sydd hawdd ei siglo;
Llong ar fôr pan fo hi yn nofio,
Llidiart newydd ar glawdd ceryg,
A het ar goryn merch foneddig.

Mi fûm yn rhodio glan môr heli,
Gwelwn wylan wen lliw'r lili
Ar y traeth yn sychu ei godrau,
Wedi ei gwlychu gan y tonau.

Mi rois fy mhen i lawr i wylo,
Fe ddaeth y wylan ataf yno;
Mi rois lythyr dan ei haden
I fyn'd at f'anwyl siriol seren.

Pa ham mae'n rhaid i chwi mo'r digio
Am fod arall yn fy leicio?
Er fod gwynt yn ysgwyd brigyn,
Mae'n rhaid cael caib i godi'r gwreiddyn.

Mi rois fy llaw mewn cwlwm dyrys;
Deliais fodrwy rhwng fy neufys;
Dywedais wers ar ol y person, —
Y mae'n edifar gan fy nghalon.

Mi rois goron am briodi:
Ni rof ffyrling byth ond hyny:
Mi rown lawer i ryw berson,
Pe cawn i'm traed a'm dwylaw'n rhyddion.

Pe bai gwallt fy mhen yn felyn,
Fe wnai dannau i'w rhoi'n eich telyn;
Ond am nad yw fy ngwallt ond gwinau,
Rhaid i'ch telyn fod heb dannau.

Yn sir Fôn mae sïo'r tannau;
Yn Nyffryn Clwyd mae coed afalau;
Yn sir Fflint mae tân i ymdwymo,
A lodes benwen i'w chofleidio.

Tebyg iawn wyt i'r ddyllhuan,
O bren i bren bydd hono'i hunan.
A phob 'deryn yn ei churo;
Tebyg iawn wyt ti i hono.