Tudalen:Cymru fu.djvu/379

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mi wyf yma, fal y gweli,
Hieb na chyfoeth na thylodi;
Os meiddi gyda mi gydfydio,
Di gei ran o'r fuchedd hono.

Mae llawer afal ar frig pren
A melyn donen iddo,
Na thâl y mwydion tan ei groen
Mo'r cym'ryd poen i ddringo
Hwnw fydd cyn diwedd ha'
Debyca' a siwra' i suro.

Mwyn yw llun a main yw llais
Y delyn fernais newydd,
Haeddai glod am fod yn fwyn—
Hi ydyw llwyn llawenydd:
Fe ddaw'r adar yn y man
I diwnio dan ei 'denydd.

Daw ydyw'r gwaith, rhaid dweyd y gwir,
Ar fryniau sir Feirionydd:
Golwg oer o'r gwaelaf gawn,
Mae hi eto'n llawn llawenydd:
Pwy ddysgwyliai canai cog
Mewn mawnog yn y mynydd.

Er melyned gwallt ei phen,
Gwybydded Gwen lliw'r ewyn,
Fod llawer gwreiddyn chwerw'r ardd
Ac arno hardd flodeuyn.

Mi ddymunais fil o weithiau
Fod fy mron yn wydr goleu,
Fel y gallai'm cariad weled
Fod y galon mewn caethiwed.

Tra bo Môn â mor o'i deutu,
Tra bo dwr yn afon Gonwy,
Tra bo marl dan Graig y Dibyn,
Cadwaf galon bur i rywun.

Meddwch chwi pa oreu im' eto,
Yw bod yn glaf o serch ai peidio?
Nes cael gwybod pwy ennilla,
Ai hi a ga', ai mi a golla'.