Tudalen:Cymru fu.djvu/380

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Maent hwy yn dywedyd mai lle iachus
Yw glan y môr i eneth glwyfus:
Minau sydd yn glaf o'r achos;
Mi af i lân y môr i aros.

Mi fum gynt yn caru glanddyn,
Ac yn gwrthod pob dyn gwrthyn:
Ond gweld 'rydwyf ar bob adeg,
Mai sadia'r mur po garwa'r gareg.

Maent hwy'n d'weyd na chaf edrych
Ar eich cudyn melyn manwych;
Ni wnaeth Duw mo'r byd cyn dosted
Ni chaiff pawb a'i olwg weled.

Derfydd rhew a derfydd gauaf,
Fe ddaw'r hâf a'i wên dirionaf:
Ond ni ddaw un pêr ddyddanwch
Byth i mi sy'n llawn o dristwch.

Drwg am garu, drwg am beidio,
Drwg am droi fy nghariad heibio;
Drwg am godi'r nos i'r ffenest':
Da yw bod yn eneth onest.

Cwlwm caled yw priodi,
Gorchwyl blin gofalus ydi;
Y sawl nis gwnaeth nis gŵyr oddiwrtho,
Ond caiff wybod pan ei gwnelo.

Blewyn glas ar afon Dyfi
A hudodd lawer buwch i foddi;
Lodes wen a'm hudodd innau
O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.

Nid cymhwys dan un iau y tyn
Ych glân ac asyn atgas;
Dwy natur groes mewn tŷ wrth dân
Ni harddant lân briodas.
Cais i ti ddyn o natur dda
Mewn gweithred a chymdeithas,
Fo'n dilyn ffyrdd gwir deulu'r ffydd,
Cei ddedwydd ddydd priodas.