Tudalen:Cymru fu.djvu/381

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TWM SION CATTI

GWR boneddig, ac yspeiliwr; hynafiaethydd, a chnaf diriaidus; haelionus i'r tlawd, galluog fel ysgolaig, a dychryn pawb yn perchen eiddo. Dyna y cymeriad a rydd traddodiad i Twm Sion Catti, ac er mor wrthgyferbyniol yr ymddengys ar yr olwg gyntaf, nid ydym ni yn myned i wadu ei wirionedd. Ni buasai mwy o son am y Twm hwn mwy na rhyw Dwm arall oni bai fod neillduolrwydd yn perthyn iddo, a dylid cofio nad ydyw hynodrwydd ond esgus gwan dros annghrediniaeth, er fod yn naturiol i'r farn o'i herwydd fod yn fwy gochelgar.

Dywedir mai mab ydoedd Twm Sion Catti i Syr John Wynn, o Wydir; mai ei enw priodol oedd Thomas Jones, ac i'w ffugenw darddu o Twm, mab Sion a Chatti neu Catherine. Blodeuodd tua'r flwyddyn 1590 hyd 1630. Preswyliai mewn lle o'r enw Porth y Ffynon, yn agos i Dregaron, a gelwir y tŷ hwnw hyd y dydd heddyw gan bobl yr ardal yn Blas Twm Sion Catti. Ystyrid ef yn brydydd a hynafiaethydd mor ragorol fel y dywedodd yr enwog Dr. John Dafydd Rhys, ei gydoeswr, am dano:— "A phenaf a pherpheithiaf, a hynny yn ddiamheu, y bernir Thomas Sion, o Borth y Phynnon, yn ymyl Tref Garon. A phan ddarpho am dano, ef a fydd ddigon petrus y ddamwain allu o hono yr hawc adu yn ei ol un cymhar iddo: na chwaith neb ryw achwr a ddichon, o ran bod mor gyphredin ag ef ynn yr wybodaeth honn, wneuthur cymeint a phwyso parth ac atto." Ond er mor bwysig y dichon y deyrnged hon o barch iddo fel hynafiaethydd fod oddiwrth awdurdod mor uchel eto adwaenir Twm Sion Catti yn well ar gyfrif ei ystranciau a'i ladradau. Mor fawr ydoedd ei ddylanwad ar y wlad yn y cymeriadau hyn fel y dynododd rhywun ef gyda y llinellau hyn:

"Mae llefein mawr a gwaeddi,
Yn Ystradffin eleni;
Mae'r ceryg nadd yn toddi'n blwm
Rhag ofn Twm Sion Catti."

Yn awr rhoddwn engraifft neu ddwy o'i ddiriaidau:— Cyfarfyddodd a dyn yn myned i brynu crochan, ac addawodd gael un rhad iddo. Yna hwy a aethant tua masnachdy, a phan oeddynt yn gofyn pris rhai dywedodd Twm wrth y masnachydd fod twll yn un o honynt, yr hyn a wadodd y dyn yn benderfynol. Er mwyn profi