Tudalen:Cymru fu.djvu/382

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hyn a ddywedai, dymunodd Twm ar i'r siopwr roddi ei ben ynddo, ac yna y caffai weled, a thra yr oedd pen y masnachydd yn y crochan, arwyddodd ar i'r dyn tlawd gymeryd crochan arall ymaith. Wedi i'r truan graffu ei oreu, tynodd ei benglog gan sicrhau nad oedd yr un twll yn y crochan. "Yna," meddai Twm, "pa fodd y gallit ti roddi dy ben ynddo?".

Dro arall, efe a ganfu hen wraig yn y farchnad, a rholyn frethyn wrth ei hochr, ac efe a gydiodd un pen iddo wrth ei ddillad ei hunan; a thrwy roddi tro cyflym efe a gymerodd y brethyn oddiamgylch i'w gorph. Wedi i'r wraig wybod ei golli, hi a edrychodd o'i hamgylch yn graff, a phan welodd Twm hi yn syllu yn ammheus ar y brethyn oedd ganddo ef, efe o ddynesodd ati ac a ffugiodd gydofidio â hi, a gresynu fod cynifer o ddyhirod yn dyfod i ffeiriau, a rhyfeddu iddi fod mor esgeulus, a dywedyd ei fod ef bob amser er mwyn diogelwch yn rholio ei frethyn o'i amgylch ac yn ei wnio wrth ei ddillad.

Un tro arall, efe a gafodd wybod fod lleidr pen ffordd nodedig yn y gymydogaeth, ac efe a benderfynodd roddi cais teg ar ei yspeilio. Tuag at ddwyn hyny oddiamgylch, efe a farchogodd ar hen geffyl gwael druenus i'w gyfarfod, gan gymeryd gydag ef god ledr yn llawn o hoelion. Gorchymynodd y lleidr iddo aros, a rhoddi ei arian i fynu. Ymddangosai Twm yn hytrach yn anewyllysgar i wneud hyn, eithr pan fygythiodd y lleidr ei saethu efe a'i taflodd dros y gwrych. Y lleidr dan ei regi a barodd iddo ddal pen ei geffyl; ond tra y bu efe yn myned dros y clawdd Twm a newidiodd ddau geffyl, ac a garlamodd ymaith nes oedd y ffordd yn gwreichioni o tano.

Ac nid rhyw greadur calon oer, caled, ac amddifad o nwyfiant, ydoedd Twm, a'i ddichellion wedi llwyr fogi ei deimladau caruaidd, ond dygai ei gyfrwysdra gydag ef hyd yn nod i awyr gysegredig serch. Efe a syrthiodd mewn cariad ag etifeddes Ystradffin, yn swydd Gaerfyrddin, ond gydag ychydig o obaith am lwyddiant, a'r gobaith hwnw yn treiddio i'w feddwl trwy ei gynllwynion. Efe a ymwelai â'i anwylyd yn yr hwyr, ac nid allai mewn un modd ei pherswadio i ddyfod allan ato, a hyny o ddiffyg cydsyniad ei rhieni. Un noson hi a wrthododd yn deg wrando arno, ac er o'i hanfodd, gorchymynodd iddo beidio dyfod byth yn agos i'r tŷ drachefn. Wel, os rhaid iddi fod felly, "ebe Twm, "yr ydwyf yn deisyf arnoch roddi imi eich llaw unwaith cyn yr ymadawom am byth." Y foneddiges a ostynodd ei llaw drwy y ffenestr, a Thwm yn uniongyrchol a

.