Tudalen:Cymru fu.djvu/383

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afaelodd ynddi, ac yn lle ei chusanu yn awyddus, tyngodd y torai efo ei llaw hi ymaith, os na phriodai hi ef yn ddiatreg. Yr oedd offeiriad gerllaw, y fodrwy a roddwyd am ei bys, a'r seremoni a gyflawnwyd. Ni wyddom pa beth a ddilynodd briodas mor swta ac annaturiol, ond os oes coel ar dyb gyffredin dynolryw am flaenafiaid priodas, nid ellir casglu i'r ddau fwynhau llawer o hapusrwydd oddiwrth eu gilydd. Pa fodd bynag, dywedir fod cyfnewidiad hollol wedi cymeryd lle yn muchedd Twm Sion Catti ar ol hyn; iddo adael llwybrau helbulus lladrad, a chynghori ei hen gymdeithion i wneud yr un modd. Y mae ogof mewn craig yn agos i Ystradffin, a elwir "Ogof Twm Sion Catti," dywedir mai yno y trigai ein harwr cyn iddo briodi.

MAN—GOFION

.

Guto'r Glyn.—Guto'r Glyn wedi heneiddio a gollesei glyw a'i olwg; ac yna y cymerth Abad Llanegwesti ef i'r Fynachlog i dario tra fai byw. Ac ychydig cyn ei farw efe a gysgodd hyd ar ol haner dydd, ac yna y deffroes, ac y gofynodd i'r llanc oedd yn ei wasanaethu, beth oedd hi o'r dydd; ac y dywed yntau ei bod hi wedi haner dydd a bod yr Abad ar ddybenu ei ginio. Yna y dywed Guto "Pa'm na chlywswn i y clychau yn canu? pa'm na chlywswn i ganu yr organ?" Fe ganwyd y clychau a'r organ hefyd, a dylasech eu clywed," ebe'r llanc. Yna Guto a gânt yr Englyn hwn:—

Gwae'r gwan rhan oedran nid edrych,—ni chwerdd
Ni cherdda led y rhych;
Gwae ni wyl yn gynilwych,
Gwae ni chlyw organ na chylch.

Argraffu Cymraeg.–Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn Llundain, yn y flwyddyn 1516. "Rhedai ei deitl fel hyn, "Yn y Llyvyr hwn traethyr y Gwyddor Cymraeg. Kalendyr. Y Gredo neu Bynceu yr Ffydd Gatholic. Y Pader neu Weddi yr Arglwydd. Y Deng air Deddyf. Saith rinwedd yr Eglwys. Y Campay arferadwy a'r gweddiau gocheladwy ae Keingeu." Ei faint oedd pedwar plyg. Gwaith William Salisbury, cyfieithydd galluog Testament Newydd, ydoedd. Y llyfr a argraffwyd gyntaf