Tudalen:Cymru fu.djvu/384

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nghymru oedd, "Eglurhad o Gatecism Byraf y Gymanfa, o waith Thomas Vincent, ac o gyfieithiad J. P. a T. P." Argraffwyd ef yn Castell-newydd Emlyn, yn y flwyddyn 1719. Am tua thri ugain mlynedd ar ol hyn, Almanaciau oeddynt brif gyfryngau gwybodaeth y Cymro yn ei iaith ei hun. Argreffid y rhai hyn gan mwyaf yn Nghroesoswallt ac Amwythig. Yr oedd Sion Tudur, o Lanelwy, yn llawn mor adnabyddus fel Almanaciwr ag ydoedd fel Bardd. Ond un tro bu agos i un bachgenyn ladd ei Almanaciaeth yn farw gelain. Ar foreu tesog wybren glir yn nghanol haf, yr oedd Sion yn rhodio ffordd gerllaw ei dŷ, a daeth i'w gyfarfod yr hogyn dywededig, a chanddo wlawlen fawr tan ei fraich. I beth 'rwyt ti 'n cario y wlawlen fawr yna ar fore mor braf a hwn?" ebai'r Almanaciwr. " Am fod Almanac Sion Tudur yn d'weyd mai diwrnod braf a gawn ni heddyw, ac felly y mae hi yn sicr o wlawio cyn y nos," a ffwrdd a'r bychan pert i'w daith gan adael Sion i syn gilgnoi ei damaid chwerw.


Damheg.—Yr oedd unwaith yn Eifionydd hen ŵr hen iawn yn byw gyda'i fab a'i ferch yn nghyfraith, i ba rai yr oedd plentyn penfelyn llonbryd. O'r bron y gallai yr hen ŵr godi y llwy wrth fwyta at ei ben gan fel y crynai ei fraich, a cholli y byddai yn fynych ei wlyb hyd y bwrdd. Yna ei fab a'i ferch yn nghyfraith a'i dodasant mewn congl wrtho'i hun; a rhag y torai llestr pridd, gwneud llestr pren iddo a wnaethant. Dyna lle byddai yn och'neidio'n brudd, ac yn bwrw trwy ei ddagrau aml gipedrychiad athrist tua'r ford, heb gael haner digon i dori ei angen. Pan yn bwyta yn ei gongl un tro, yr oedd ei ŵyr bach yn chwareu gyda darnau o goed ar y llawr. "Beth wyt ti yn ei wneud, machgen i?" ebai'r tad." Gwneud cafn bach i'm tad a'm mam fwyta o hono pan elwyf fi yn ddyn."Teimlwyd yr awgrym; dygwyd yr hen ŵr yn ol at y ford, ymddygwyd yn dirion tuag ato hyd oni pheidiodd y llaw grynedig a chrynu, a'r galon ag ocheneidio. Ac oddiar hyn y tarddodd y ddiareb "Tra gwir, gwir gwirion." Ac arall "A fo brwnt wrth hen boed hen ei hun."