Tudalen:Cymru fu.djvu/385

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y DIWYD A'R DIOG.

COFUS iawn genym y dydd hwn, am ddau a adwaenem yn dda pan yn ieuanc gartref, o'r gwahanol nodweddau hyn. Yr oedd preswylfa y diwyd am lawer o flynyddau gerllaw trigle ein rhieni. Os digwyddai iddo fod allan o waith, byddai yn anesmwyth ac annedwydd i'r eithaf iddo ei hun a'i deulu. Siaradai rhyngddo ag ef ei hunan, prociai y tân, ysgytiai y plant, ciciai y gath, a byddai rywyr i Begws, y wraig, hel y carnau o'i olwg. Ond os byddai ganddo olwg ar ddigon o waith o'i flaen, byddai mor llawen a'r côg, ac mor chwareüus a'r ebol. Byddai yn llonaid ffordd ddyn wrth fyned at ei waith y bore a dychwelyd adref yr hwyr. Gosodai ei freichiau yn mhleth, a'i het ar lechwedd ei ben, gan ganu fel y medrai:—

"Fe dyngai madyn eger
Pe ll'w'gai brenin Lloeger
Mi fyna ddafad ag oen gwyn,
Os hapia, erbyn swper.

Gweithio oedd dedwyddwch ei fywyd, ac yr oedd bod allan o waith yn chwerwach nag angau iddo. Cof genym i'n tad ein hanfon i ymofyn am dano at ryw waith ar adeg led segur arno, ac yr oedd yn bur ddrwg ei anwydau, fel yr arferai fod ar y tymhorau hyny: ond pan grybwyllasom ein neges, newidiai ei wedd, a dechreuai chwibanu yn fawreddus ryfeddol; "Ond," meddai yn y man, "ni wn i beth i ddweyd wrthat ti. Y mae Robert y Wern yna, eisio i mi fyn'd yno—a Richard y Cae Coed hefyd; ond aros di, dywed wrth dy dad mai acw y do i." Ni byddai yr hen walch yn foddlawn i addef byth ei fod allan o waith.

Bu yr hen greadur diwyd hwn fyw i oedran teg. Wedi iddo fyned yn rhy wan gan henaint i weithio am gyflog fel cynt, nid ymollyngodd ar y plwyf fel y cyffredin. Yr oedd yspryd gweithio mor fyw a nerthol ynddo ag erioed. Treuliodd flynyddau olaf ei oes ar hyd mynydd Hiraethog; efe oedd arglwydd darn mawr o'r mynydd hwnw. Adwaenid ef yn dda gan filoedd o ddefaid, a merlynod, a chornchwiglod yno. Yn yr haf, byddai yn tori ac yn