Tudalen:Cymru fu.djvu/387

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arweiniodd ef yno. Yn mhen enyd daeth prynwr heibio, ac wedi dal sylw ar y ceffyl, a barnu y gwnaethai ei dro, ymofynodd yn nghylch y pris. "Ond beth sydd genych am ei wddf?" ebe fe. Llyffethair i roi am ei draed o, debyg," meddai Dafydd; os ydych yn meddwl ei brynu o, rhaid i chwi roi hon am ei goesau fo,—mi na' lw nad oes genych yr un clawdd ar eich helw a'i deil o." "Ond sut yr ydych mor ffol ac amlygu y peth am dano, a chwithau eisio ei werthu?" ebe y llall. "Oes y mae arnaf eisio ei werthu i'w grogi," meddai Dafydd; "ond y mae arnaf eisio i'r neb a'i pryno gael gwybod y gwir am yr hen ellyll." "Mi a roddaf i chwi eich pris am y ceffyl," ebai y gŵr; ond gellwch chwi gadw y llyffethair; gwnawn y tro yn burion, oblegyd ni chaiff gyfleusdra i dori cloddiau gyda mi; caiff ei gadw o'r ystabl i'r tresi, ac o'r tresi i'r ystabl." Y mae gwir brydferthwch mewn troion symlion a gonest o'r fath yma; ac y mae Dafydd o'r Gilfach yn deilwng o gael ei gadw mewn coffadwriaeth o'i herwydd.

Y mae addewidion twyllodrus cryddion, gwehyddion, a theilwriaid, wedi peri llawer o boen a theimladau drwg mewn teuluoedd yn Nghymru; ac nid anfynych y cyfyd y ddadl yn nghylch pa un ai gŵr y mynawyd, y nodwydd, neu y wenol, ydyw y mwyaf celwyddog o'r tri boneddwr. Tyr y crydd gynifer o addewidion am bar o esgidiau ag a fydd o bwythau ynddo cyn dechreu ar ei waith, a chwyra esgusion anwireddus drachefn mor barod a deheuig ag y cwyra ei edef. Addawa y teiliwr wasanaeth ei nodwydd ddeng waith i wneuthur pâr o ddillad i'r gŵr ieuanc, cyn y cyflawna; a bydd hwnw o herwydd y siomedigaethau yn ei ddirgel felldithio. Addawa y gwehydd weu corn o wlanen i haner cant o wragedd ar yr un pryd mor rhwydd ac mor rhigl ag y rhed ei wenol; a bydd y rhai hyny drachefn yn ei gablu ac yn gollwng eu tafodau arno fel y lifeiriant, oherwydd iddo eu twyllo âg addewidion gau. Brawd cyfan i'r lleill yw y panwr yntau. Y mae y drwg a'r niwed o gelwyddau o'r fath hyn wedi ei guddio o'r golwg i raddau helaeth gan gyffredinolrwydd yr arferiad o honynt. Ni feddylia y naill na'r llall bod dim allan o le yn y peth, ond y rhaid iddynt ei arfer i gadw eu cwsmeriaid, a'u cadw yn ddiddig; pan mewn gwirionedd y maent yn achosi cynhen ac yn cynyrchu teimladau digofus fwy na mwy.