Tudalen:Cymru fu.djvu/389

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

merched am y dydd, gan gymeryd y tai agosaf a mwyaf cyfleus dan ei ofal ei hun. Byddai ymladdfeydd dychrynllyd yn tori allan weithiau rhyngddynt, os digwyddai i rai cydau fod yn lled weigion, oblegyd drwgdybid perchenogion y cydau hyny gan y lleill, o fod yn euog o ddiogi ac esgeulusdra yn nghyflawniad gwaith y dydd. Yr oedd eu diogi yn felldith drom iawn ar y teulu annedwydd hwn. Gwrthddrychau dirmyg ac adgasrwydd yr holl blwyf oeddynt. Y dialedd trymaf a allai y naill fachgen ieuanc feddwl am dano i'w roddi ar y llall, pan wedi digio, fyddai danod un o ferched Ned yn gariad iddo; byddai hyny bob amser yn sicr o gyrhaedd i'r byw. Llawer ymladdfa ffyrnig a fu rhwng hoglanciau â'u gilydd oblegyd hyn. Pan fyddai yr holl ystôr o dafod drwg wedi ei dreulio, hon oedd yr olaf a'r benaf; ac nid oedd ond y dyrnau am dani wed'yn. Gwelais hyn, a mi ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw i gysgu; felly y daw dy dlodi arnat fel ymdeithydd, a'th anghen fel gwr arfog."

IARLLES Y FFYNON

(Hen Fabinogi Gymreig.)

YR Ymherawdwr Arthur oedd yn Nghaerlleon-ar-Wysg, ac yn eistedd un diwrnod yn ei ystafell; a chydag ef Owen ab Urien, a Chynon ab Clydno, a Chai ab Cyner; a Gwenhwyfar a'i llaw-forwynion yn gwnio wrth y ffenestr. Ac os dywedir fod porthawr ar Lys Arthur, nid oedd yr un. Glewlwyd Gafaelfawr oedd yno yn gweithredu fel porthawr i groesawu ysp a phellenigion (gwesteion a dyeithriaid), ac i ddechreu eu hanrhydeddu, ac i fynegi moes y llys iddynt, ac i gyfarwyddo y sawl a ddeuent i'r llys neu i'r ystafell, neu a ddeuent yno am letty. Ac yn nghanol llawr yr ystafell yr oedd yr ymherawdwr Arthur yn eistedd ar deml o frwyn, a llen o bali melyn-goch o dano; a gobenydd o bali coch o dan ei benelin. Ar hyny ydywed Arthur, "Hawyr, pei na'm goganech,"