Tudalen:Cymru fu.djvu/390

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ebai ef, "mi a gysgwn tra fyddwn yn aros fy mwyd; ac ymddiddan a ellwch chwithau, a chymeryd ystenaid o fedd a golwythion o gig. gan Cai." A chysgu a wnaeth yr ymherawdwr. A gofynodd Cynon ab Clydno i Gai yr hyn a addawsai Arthur iddynt. "Minau a fynaf yr ymddiddan da addewsid i minau," ebai Cai. "Ha! wr," ebai Cynon, "gwell yw i ti wneuthur addewid Arthur yn nghyntaf; a'r ymddiddan goreu a wyddom ninau, ni a'i dywedwn i ti." Felly, aeth Cai i'r gegin ac i'r feddgell, a dychwelodd a chanddo ystenaid o fedd, a chwpan aur, a llonaid ei ddwrn o sciwars a golwython o gig arnynt. A chymeryd y golwython a wnaethant, a dechreu yfed y medd. "Yn awr," ebai Cai, "chwithau biau talu i minau fy ymddiddan." Cynon," ebai Owen, " tâl yr ymddyddan i Cai." "Diau," ebai Cynon, "hŷn gŵr a gwell ymddiddanwr wyt na mi, a mwy. & welaist o bethau godidog; tâl di yr ymddiddan i Cai." "Dechreu di," ebai Owain, " gyda'r hyn odidocach a wypych." "Mi a wnaf," ebai Cynon.

Unig fab fy nhad a'm mam oeddwn I; ac uchelgeisiol oeddwn, a mawr oedd fy rhyfyg. Ac ni thebygwn fod anhawsdra yn y byd a orfyddai arnaf; ac wedi i mi orfod ar bob anhawsdra ag oedd yn yr un wlad a mi, ym— gymerais à cherdded eithafoedd byd a diffeithwch. Ac yn y diwedd, dyfod a wnaethum i'r dyffryn tecaf yn y byd, a choed gogyfuwch ynddo, ac afon redegog oedd ar waelod y dyffryn, a llwybr ar hyd ei hystlys. Cerdded y llwybr â wnaethum hyd haner dydd; a'r partb arall o'r dyffryn a gerddais hyd y prydnawn; ac yna y daethum i faes mawr, ac yn mhen y maes yr oedd Caer fawr lewyrchedig, a llyn yn gyfagos i'r Gaer. A thua'r Gaer yr aethum, a gwelwn yno ddau was pengrych—felyn, a rhagtal (frontlet) aur am ben pob un o honynt; pais o bali melyn am bob un, a gwasgai (clasps ) o aur am fynyglau eu traed. Bwa o esgyrn Elephant oedd yn llaw pob un, llinynau y rhai oeddynt o giau hydd; pelydr eu saethau oeddynt o asgwrn morfil wedi eu haden gyda phlu y pawin (peacock). Penau aur oedd i'w saethau; a llafnau eu cylleill oedd o aur, a'u cainau o asgwrn morfil amryliwiog. Ac yr oeddynt yn saethu eu cylleill.

"Ac heb fod neppell oddiwrthynt mi a welwn ŵr pen— grych melyn, a'i farf newydd ei heilliaw; a phais a mantell o bali melyn am dano, ac ysnoden o eurliw yn mhen ei fantell, a dwy esgid o gordwal brith am ei draed, a dau gnap o aur yn eu cau. Ac mi a ddynesais ato, a chyfarch gwella