Tudalen:Cymru fu.djvu/394

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyaf fy mwyniant yn gwrando yr adar, dyma duchan yn dyfod ar hyd y dyffryn tuag ataf, ac yn dywedyd, "Ha! farchog, beth ddaeth a ti yma? pa ddrwg a wneis i ti pan ddygit ti y fath niwaid i mi? Oni wyddost ti na adawodd y gawod heddyw na dyn na llwdn yn fyw trwy fy holl gyfoeth ar a gafodd allan?" Ar hyny, wele farchog ar farch purddu o dano, a gwisg o bali purddu am dano, ac arwydd (tabard) o lian purddu o'i gylch. Ac ymdaro a wnaethom, a chyn pen ychydig bwriwyd fi i lawr. Yna y marchog a ddododd ei waewffon o fewn ffrwyn fy march, ac ymdaith ymaith a'r ddau farch ganddo, a'm gadael inau yno. Ni ddangosodd efe gymaint o fawredd i mi a'm carcharu, ac nid yspeiliodd efe fi o'm harfau. Felly mi a ddychwelais ar hyd y ffordd y deuais. A phan ddaethum i'r llanerch yr oedd y gŵr du ynddi, fy nghyffes a roddafi ti, Cai, mae'n rhyfedd na thoddaswn yn llymaid rhag cywilydd gan gymaint o watwar a gefais gan y gŵr du. Ac i'r gaer y buaswn o nos gynt y daethum y nos hono. A llawenach fuwyd wrthy fy nos hon na'r nos cynt, a gwell i'm porthed; yr ymddiddan a fynwn gan wyr a chan wragedd a gawn, ac ni chrybwyllai neb ddim wrth y fam fy ymgyrch i'r ffynon; ac nis crybwyllais inau wrth neb. Ac yno y bum y nos hono. Pan godais dranoeth gwelwn farch (palfrey) gwineu-ddu, a ffroenau ganddo gan goched â'r ysgarlad. Ac wedi dodi o honwyf fy arfau, a gadael yno fy mendith, mi a ddychwelais i'm llys fy hun. Ac y mae'r march genyf eto yn yr ystabl acw, ac nis ymadawn ag ef am y march goreu yn Ynys Prydain.

Yn ddiau, Cai, ni chyffesodd dyn erioed ymgyrch mor ddianrhydedd iddo ei hun â hon. Y mae'n rhyfedd na chlywais i byth na chynt na chwedi am ungwr ond fy hunan a wyr ddim am yr ymgyrch, ac i hyn gymeryd lle o fewn cyfoeth yr Ymherawdwr Arthur heb i neb arall ei gael allan.

"Ha! unben," ebai Owen, "onid da fyddai cael allan y lle hwnw!"

"Myn llaw fy nghyfaill," ebai Cai, "mynych y dywedi di ar dy dafod yr hyn nis gwneli ar dy weithred."

"Diau, Cai", ebai Gwenhwyfar, "mai gwell fyddai dy grogi di na dywedyd o honot ymadrodd mor ddiraddiol wrth wr fel Owain."

Myn llaw fy ngyfaill, wreigdda," ebai Cai, "nid mwy dy barch di i Owain na minau."

Ar hyny, Arthur a ddeffrodd, a gofynodd os cysgasai efe ychydig.