Tudalen:Cymru fu.djvu/395

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Do, dalm o amser," ebai Owain.

"Ai amser i ni fyned at y byrddau?"

"Amser, arglwydd," ebai Owain.

Yna canu corn ymolchi a wnaethpwyd, a myned a wnaeth yr ymherawdwr Arthur a'i holl deulu i fwyta. Ac wedi darfod bwyta, Owain a enciliodd ymaith; a dyfod i'w letty a pharatoi ei farch a'i arfau a wnaeth. A phan welodd efe y dydd dranoeth, gwisgo ei arfau am dano, ac esgyn ar ei farch, a cherdded rhagddo hyd eithafoedd byd a thros ddiffaeth fynyddoedd a wnaeth. Yn y diwedd efe a adwaenodd glyn y mynegasai Cynon am dano, ac efe a gerddodd hyd y glyn gydag ystlys yr afon hyd oni ddaeth efe i'r dyffryn, a'r dyffryn a gerddodd hyd oni welai y gaer. Tua'r gaer yr aeth efe, a gwelai y gweision yn saethu eu cyllill fel y gwelsai Cynon hwynt, a'r gwr melyn a biau y gaer yn sefyll gerllaw. Ac mor fuan ag y cyfarchodd Owain well i'r gŵr melyn, y cyfarchodd y gwr melyn well iddo yntau.

Ac yn mlaen yr aeth efe at y Gaer; a phan ddaeth i'r ystafell, efe a welai y morwynion yn gwnïo pali mewn cadeiriau euraidd. A hoffach o lawer oedd gan Owain eu tecced a'u hardded nag y dywedodd Cynon iddo. A chyfodi a wnaethant i wasanaethu Owain fel y gwasanaethasant Cynon. A hoffach fu gan Owain ei borthiant na chan Cynon. Ac ar haner bwyta ymofynodd y gŵr melyn gan Owain pa gerdded oedd iddo. Ac Owain a ddywed wrtho y cwbl—"Ceisio y marchog sydd yn gwarchadw y ffynon yr ydwyf." A gwenu a wnaeth y gŵr melyn, a dweyd fod yn anhawdd ganddo fynegi i Owain y cerdded hwnw, fel y bu anhawdd ganddo ei fynegi i Cynon. Er hyny, efe a fynegodd y cwbl wrth Owain.

Ac i gysgu yr aethant. A bore dranoeth, yr oedd y morwynion wedi gwneuthur march Owain yn barod, a cherdded a wnaeth Owain rhagddo oni ddaeth i'r llanerch yr oedd y gŵr du ynddi. A rhyfeddach fu gan Owain faint y gŵr du na chan Cynon. A gofyn y ffordd a wnaeth Owain i'r gwr du. Yntau a'i mynegis. Ac Owain a gerddodd y ffordd fel Cynon oni ddaeth i ymyl y pren glas. Ac efe a welai y ffynon a'r llech yn ymyl y ffynon a'r cawg arni, ac efe a gymerodd y cawg, ac a fwriodd gawgiad o'r dwfr ar y llech. Ar hyny, dyma'r twrf, ac ar ol y twrf gawod. Mwy o lawer nag y dywedasai Cynon oeddynt. Wedi y gawod yr awyr a oleuodd, a phan edrychodd Owain ar y pren, nid oedd un ddalen arno. Ac ar hyny wele'r adar yn disgyn ar y