Tudalen:Cymru fu.djvu/396

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pren, ac yn canu. A phan oedd digrifaf gan Owain gerdd yr adar, efe a welai farchog yn dyfod ar hyd y dyffryn, ac efe a baratodd i'w erbyn. Ac ymdaro yn ffyrnig a wnaethant. Ac wedi tori dau waywffon, diweinio cleddyfau, ac ymladd lafn yn llafn. Yna Owain a darawodd y marchog trwyei helm, a'i benffestin, a'r penguwch pwrcwin (visor) a thrwy y croen y cig a'r asgwrn oni chlwyfodd efe ei ymenydd. Yna adnabu y marchog du iddo dderbyn dyrnod angeuol; a throi pen ei farch a wnaeth, a ffoi. Ac Owain a'i hymlidiodd er nad yn ddigon agos i'w gyrhaedd â'r cleddyf. Ar hyny, Owain a welai Gaer fawr lewyrchedig; ac i borth y Gaer y daethant a gollyngwyd y marchog du i mewn, a gollyngwyd y ddor dyrchafiad ar Owain; yr hwn a darawodd ei farch tu cefn i'r cyfrwy, ac a'i torodd yn ddau haner trwyddo. A'r dôr a ddaeth hyd y llawr, a throellau yr yspardynau a darn o'r march oedd oddiallan, ac Owain a'r rhan arall o'r march oedd rhwng y ddau ddôr, a'r dôr arall oedd gauedig hefyd. Ac nid allai Owain fyned oddiyno, ac mewn cyfyng-gyngor yr oedd efe. Ac fel yr oedd Owain felly, efe a welai trwy gyswllt y ddôr heol gyferbyn ag ef, ac ystryd o dai o bob tu i'r heol, ac efe a welai forwyn pengrych-melyn, a rhagtal aur am ei phen, a gwisg o bali melyn am dani, a dwy wintas (esgid) o gordwal brith am ei thraed, a dyfod i'r porth yr ydoedd. A hi a archodd agoryd y porth. "Diau, unbennes," ebai Owain, "nid ellir agor i ti oddiyma, mwy nag y gelli dithau fy ngwared inau oddiyna." "Gwir," ebai'r forwyn, "y mae'n resyn nad ellir dy waredu di; a phob gwraig a ddylai dy wared, canys ni welais i neb ffyddlonach yn ngwasanaeth merched na thydi. Os cyfaill, cyfaill cywir; os cariad, goreu cariad ydwyt. Gan hyny," ebai hi, "yr hyn a allaf fi a wnaf fel y'th ryddhaer. Hwde di y fodrwy hon, a dod ar dy fys, a dod y maen hwn oddifewn dy law a chau dy ddwrn ar y maen, a chyhyd ag y cuddi di ef, efe a'th guddia dithau. Wedi iddynt ymgynghori, hwy a ddeuant i'th gymeryd a'th ddienyddio, a phan na welont dydi drwg fydd ganddynt. A minau a fyddaf ar yr esgynfan acw i'th aros di; a thydi a'm gweli I, er na welaf i dydi; tyred dithau a dod dy law ar ben fy ysgwydd i, ac yna canfyddaf dy ddyfod dithau ataf. A'r ffordd y delwyf fi oddiyno, tyred dithau gyda myfi."

Yna y forwyn a adawodd Owain, ac efe a wnaeth yr hyn oll a erchis hi ganddo. Ar hyny y daeth y gwyr o'r llys i geisio Owain ddienyddio; eithr pan ddaethant, ni welant ddim ond haner y march. A drwg oedd ganddynt