Tudalen:Cymru fu.djvu/397

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny, a diflanu a wnaeth Owain o'u plith, a dyfod at y forwyn, a dodi ei law ar ei hysgwydd, a chychwyn a wnaeth hithau rhagddi, ac Owain gyda hi, oni ddaethant i ddrws llofft fawr odidog. A'r forwyn a agorodd y llofft, a myned i mewn a chau llofft a wnaethant; ac Owain a edrychodd ar hyd y llofft, ac nid oedd yn y llofft un hoel heb ei lliwio â lliw gwerthfawr. Ac nid oedd un ystyllen heb ddelw euraidd amryfal arni.

A’r forwyn a gyneuodd dân glo; a chymeryd cawg arian a dwfr ynddo a thywel o lian gwyn ar ei hysgwydd, a rhoddi dwfr i ymolchi a wnaeth hi i Owain. A dodi bwrdd arian goreuraidd ger ei fron, a llian melyn yn llian arno; a dyfod a'i giniaw iddo; a diau oedd gan Owain na welsai erioed neb ryw fwyd na welsai yno ddigon o hono, ond ei fod wedi ei goginio yn well yno nag y gwelsai yn un man arall erioed. Ac ni welsai erioed gymaint o fwyd a diod ag oedd yno. Ac nid oedd un llestr yn gwasanaethu arno namyn llestri o arian neu aur. Ac Owain a fwytaodd ac a yfodd onid oedd yn hwyr brydnawn. Ac ar hyny hwy a glywent swn mawr yn y Gaer. Ac Owain a ofynes i'r forwyn, "Pa waeddi yw hwn!" “ Dodi olew ar y gwrda biau y Gaer y maent," ebai'r forwyn. Ac i gysgu yr aeth Owain.

Ac yr oedd y gwely a ddarparesid iddo gan y forwyn yn deilwng i Arthur, o ysgarlad a gra (fur), a phali, a syndal, a llian. Ac am haner nos hwy a glywent ddiaspedain chwerw, "Pa swn yw hwn, weithion?" ebai Owain. "Y gŵr da biau y Gaer y sydd farw yr awrhon," ebai'r forwyn. A chyda thoriad y dydd y clywent ddiaspad a gweiddi an. feidrol eu maint, ac Owain a ofynodd i'r forwyn, "Pa ystyr sydd i'r gweiddi hwn? "Myned a chorff y gwr da biau y Gaer i'r llan y maent." Ac Owain a gyfododd i fynu, a gwisgo am dano, ac agor ffenestr ei lofft, ac edrych tua'r Gaer; ac ni welai nac ymyl nac eithaf i'r lluoedd oeddynt yn llenwi yr heolydd. Yr oeddynt yn llawn arfog, a gwragedd lawer gyda hwynt ar feirch ac ar draed, a chrefyddwyr y ddinas oll yn canu. A thebygai Owain fod yr awyr yn diaspedain gan y gweiddi a'r udgyrn a'r crefyddwyr yn canu. Ac yn nghanol y llu hwnw y gwelai efe yr elor, a llen o lian gwyn arni, a chanwyllau cwyr yn llosgi yn aml o'i chylch, ac nid oedd undyn tan yr elor yn llai na barwn cyfoethog. Diau oedd gan Owain na welsai erioed gynulleidfa gyn hardded a hono wedi ei gwisgo mewn pali, a seric (silk) a sandal.

Ac ar ol y llu hwnw, y gwelai efe wraig felen a'i gwallt