Tudalen:Cymru fu.djvu/402

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cwnsallt o bali oedd trosto ef a'i farch, hwn a ddanfonasid iddo gan ferch Iarll Rangyw: ac yn y wisg hon nid adwaenid ef gan un o'r llu. Ac ymgyrchu a wnaethant, a gornestu y dydd hwnw hyd yr hwyr; ac ni bu agos i'r un o honynt fwrw y llall i'r llawr.

A thranoeth yr ymladdasant a gwaewffyn cryfion ganddynt. Ac ni orfu yr un o honynt ar eu gilydd. A'r trydydd dydd, gornestu a wnaethant; a gwaewffyn cadarnfras cryfion gan bob un o honynt; ac enynn o lid a wnaethant, ac ymladd yn galed hyd haner dydd. Yna hwrdd a roddes pob un o honynt i'w gilydd oni thores holl genglau eu meirch, ac oni syrthiodd pob un tros grwpper ei farch i'r llawr. Cyfodi i fyny a wnaethant yn gyflym, a thynu cleddyfau, ac ail ddechreu ymffust. A diau oedd gan y nifer a'i gwelent hwynt felly na welsant erioed ddau ŵr cyn wyched â'r gwyr hyny, na chyn gryfed. Pe buasai yn dywyll nos, hi a fyddai yn oleu gan y tân o'u harfau. Ar hyny, dyrnod a roddes y marchog i Walchmai, hyd oni thores yr helm oedd ar ei wyneb, fel yr adnabu y marchog mai Gwalchmai oedd efe. Yna y dywedodd Owain, Arglwydd Gwalchmai, ni adwaenwn I dydi, o achos dy gwnsallt, a'm cefnder wyt,—hwde i ti fy nghleddyf a'm harfau," Tydi, Owain, y sydd arglwydd, a thydi a orfu; cymer di fy nghleddyf I," ebai Gwalchmai. Ar hyny, Arthur a'u canfu yn ymddiddan, ac a neshaodd atynt: "Fy arglwydd Arthur," ebai Gwalchmai "dyma Owain: efe a'm gorchfygodd, ac ni chymer efe fy arfau." "Fy arglwydd," ebai Owain, "efe a'm gorchfygodd I, ac ni chymer efe fy nghleddyf." "Moeswch i mi eich cleddyfau," ebai Arthur, "ni orfu yr un o honoch ar eich gilydd." Ac Owain a ddododd ei ddwylaw am wddf Arthur, ac ymgofleidio a wnaethant. A'r holl lu a ddaethant i weled Owain, ac i'w gofleidio. Ac fe fu agos a bod celanedd yn yr ymsang hwn.

A'r nos hono yr aethant oll i'w pabellau; a thranoeth Arthur a baratodd i ddychwelyd. Arglwydd," ebai Owain, "nid felly y mae'n iawn iti. Tair blynedd i'r amser hwn y daethum I oddiwrthyt ti, arglwydd; a'r lle hwn myfi a'i piau; ac er hyny hyd heddyw yr ydwyf fi yn darparu gwledd i ti, gan y gwyddwn y deuet i'm ceisio. A thi a ddeui gyda mi i fwrw dy ludded, tydi a'th wyr; a chwi a gewch enaint."

A hwy oll a ddaethant hyd i Gaer IARLLES Y FFYNON; a'r wledd y buwyd dair blynedd yn ei darpar a dreuliwyd mewn tri mis. Ni bu esmwythach iddynt wledd erioed