Tudalen:Cymru fu.djvu/404

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd arno. Yna efe a ganfyddodd y march, a'r dillad, ac ymlithro tuag atynt a wnaeth a gwisgo y dillad am dano. A thrwy boen efe a esgynodd ar ei farch. Yna y forwyn a ddatguddiodd ei hun iddo, ac a gyfarchodd weil iddo, ac efe fu lawen o'i gweled. Ac efe a ofynodd iddi pa dir a pha le oedd hwnw. Hithau a ddywedodd, "Iarlles weddw a biau y Castell acw. Pan fu farw ei gŵr, efe a adewis iddi ddwy iarllaeth, a heddyw nid oes ar ei helw namyn yr un tŷ hwn ar nas dycodd iarll ieuangc ag sydd yn gymydog iddi am nad elai hi yn wraig iddo." "Truan ydyw hyny," ebai Owain; a'r forwyn ac Owain a ddaethant i'r Castell. Yno hi a'i dwg ef i ystafell esmwyth, ac a gyneuodd dân iddo, ac a'i gadawodd yno.

A'r forwyn a ddaeth at yr Iarlles, ac a roddodd iddi y gorflwch. "Ha! forwyn," ebai'r Iarlles, pa le mae'r enaint oll?" · Mi a'i harferais oll," ebai'r forwyn. "Ha! forwyn," ebai Iarlles, "nid hawdd genyf faddeu hyn i ti: diriaid oedd i mi dreulio gwerth saith ugain. punt o iraid gwerthfawr ar ddyn heb wybod pwy ydyw. Eithr gwasanaetha di arno oni adfero efe yn gwbl oll.

A'r forwyn a wnaeth hyny, gyda bwyd a diod, a thân, a gwely, ac enaint, onid oedd efe iach. Bu hyny yn mhen tri mis, a'r blew a aethant oddiar Owain, a gwynach oedd ei gnawd nag y buasai erioed o'r blaen.

Un diwrnod, clywed a wnaeth Owain gynhwrf yn y Castell, a swn dwyn arfau i mewn, a gofynodd i'r forwyn pa gynhwrf oedd hyny: "Yr iarll;" ebai hi, "y dywedais i ti, sydd yn dyfod wrth y Castell i geisio difa y wraig hon a llu mawr ganddo." A gofynodd Owain os oedd march ac arfau yn y Castell. "Oes," ebai'r forwyn, "y rhai goreu yn y byd." "A ei di," ebai Owain, " erchi benthyg march ac arfau fel y gallwyf fi fyned ac edrych ar y llu ?" "Af," ebai y forwyn. A'r forwyn a ddaeth at yr Iarlles ac a'i hysbysodd o'r hyn a ddywedasai Owain wrthi. A'r Iarlles a chwarddodd; dyro iddo y march a'r arfau am byth; ni bu ar fy helw erioed farch ac arfau cystal a hwynt; a da genyf fi iddo eu cymeryd rhag i'm gelynion eu cael y foru o'm hanfodd. Eithr nis gwn I beth a fyn efe a hwynt. A daethpwyd a march du godidog, a chyfrwy o ffawydd arno, a digon o arfau gŵr a march, i Owain. 'Yntau a'u gwisgodd am dano, ac a esgynodd ar ei farch. Yna efe a aeth ymaith a dau was gydag ef, ac iddynt geffylau ac arfau. A phan ddaethant i olwg llu yr Iarll, ni welent nac ol nac eithaf iddo. Ac Owain a ofynodd i'r gweision