Tudalen:Cymru fu.djvu/406

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ofynodd os och dyn bydawl oedd yr och a glywai. le," ebai'r llais. Pwy wyt ti?" ebai Owain. "Diau," ebai hi, "Luned wyf fi, llawforwyn IARLLES Y FFYNON.” Beth a wnei di yna?" ebai Owain. Fy ngharcharu," ebai hi, "yr ydys o achos marchog a ddaeth o Lys Arthur i fynnu yr Iarlles yn briod; ac efe a fu yspaid gyda hi, ac a ddaeth ar ymweliad â Llys Arthur, ac ni ddychwelodd byth drachefn. A'r mwyaf a garwn I yn y byd oedd efe. A'i oganu a wnaeth dau o weision ystafell yr Iarlles a'i alw yn dwyllwr; minau a'u hatebais nad allai eu deugorph hwy ymryson a'i uncorph e'. Ac am hyny carcharwyd fi yn y llestr maen hwn; a dywedasant wrthyf na byddai fy enaid yn fy nghorph oni ddeuai ef i'm gwared cyn pen dydd neillduol, ac nid pellach y dydd hwnw na threnydd. Ac nid oes imi neb a'i ceisia. Ei enw yw Owain ab Urien." A wyt ti yn sicr pe gwypai y marchog hwnw hyn y deuai efo i'th amddiffyn" "Yr wyf yn sicr," ebai hi.

A phan oedd y golwython yn barod, Owain a'i rhanodd rhyngddo ef â'r forwyn. A bwyta a wnaethant; ac wedi hyny ymddiddan onid oedd hi yn ddydd dranoeth. Tranoeth, Owain a ofynes i'r forwyn os oedd lle y gallai gael bwyd a llawenydd y noson hono. Oes, arglwydd." ebai hi, "dos yna drwodd, a cherdda y ffordd ger ystlys yr afon, ac yn mhen ychydig ti a weli Gaer fawr, a thyrau aml arni, a'r iarll a biau y gaer hono goreu gwr am fwyd ydyw yn y byd. Ac yno y gelli di fod heno.

Ac ni wylies gwyliwr ei arglwydd erioed yn gystal ag y gwylies y llew ar Owain y nos hono.

Yna Owain a gymerodd ei farch, ac a gerddodd rhagddo trwy y rhyd, oni weles efe y Gaer. Ac efe a aeth i mewn, a derbyniad anrhydeddus a gafodd. Gofalwyd am ei farch, dodwyd dogn dda o fwyd ger ei fron. A myned a wnaeth y llew i breseb y march i orwedd, hyd na lyfasai i neb o'r gaer fyned ar gyful ei geffyl. A diau oedd gan Owain nas gwelsai erioed wasanaeth cystalaga gawsai yno, er fod yno bawb cyn dristed a phe buasai angau yn. mhob un o honynt. A myned i fwyta a wnaethant; a'r iarll a eisteddai ar y naill ochr i Owain, a'i unig ferch ar yr ochr arall i Owain. A diau oedd gan Owain na welsai erioed forwyn harddach na hono. A'r llew a ddaeth ac a orweddodd rhwng deudroed Owain tan y ford; ac Owain a'i porthes a phob bwyd ag oedd ganddo yntau. Ac ni welodd Owain fai yno oddieithr tristwch y dynion. Ac ar haner bwyta, yr iarll a ddechreuodd gyfarch gwell