Tudalen:Cymru fu.djvu/410

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farddonol) y mae'r cryd cymalau yma yn marweiddio yn fy esgyrn, a gwallt cudynog yn ail gyhwfan o gylch fy mhen; irder ieuenctyd yn dychwelyd, a llesgedd yn llesmeirio o'm mewn; bron nad wyf yn amheu a'i fi ydyw fi; a thra y byddwyf tan y gynfaredd wynfydus hon, gadewch imi ddweyd sut y byddem ni, yr hen bobl, yn bwrw rhan o'n Gwyliau heibio.

Yn nghyntaf, byddai pobl dda ein hardal yn cydymgynull i dŷ rhyw gymydog; a chan fod ffermdy yn meddu mwy o gymhwysderau at gynal y fath gwrdd nac un math o dŷ arall, ffermdŷ yn gyffredin a ddewisid; ac ar lawer ystyriaeth, nid oedd ffermdŷ cymhwysach na Bodangharad. Hen dŷ mawr wedi ei adeiladu yn ol y dull hen ffasiwn oedd Bodangharad, ac aelwyd iddo a allai gynwys deugain i eistedd yn gymfforddus o flaen ei thân (y fath dân ag oedd yno, canys yr oedd yno hen foncyff mawr o wreiddyn derwen wedi ei ddarpar tan gamp ar gyfer y Nos Nadolig), a phentanau gymaint â chegin ambell i fan. Yr oedd teulu Bodangharad yn gynwysedig o wr a gwraig llawen-fryd a charedig; ac un mab ac un ferch, geneth bropor tros ben. Penderfynodd y ddau genada etholwyd i ddewis lle, ar wahoddiad wresog oddiwrth bobl Bodangharad, mai yno y disgwyliem y plygain am 1801; ac yno yr aethom yn un torllwyth lliosog.

Noson oer ddryghinog oedd y nos hono—caenen dew o eira wedi ei thaenu tros natur farw, a “gwynt traed y meirw" o'r fath oeraf yn sturmantu ei alarnad ar ei hol yn mhob twll a cheubren. "Gwynt traed y meirw," y galwai yr hen bobl wynt y Dwyrain, am ei fod yn chwythu at draed preswylwyr y mynwentydd; hen bobl farddonol oedd yr hen bobl er's talwm. Ond waeth ichwi be fo nac eira nac amdo, fe ddaeth yno gwmni i Bodangharad nad oeddynt yn malio mewn dim byd ar Nos Nadolig ond am ei threulio hi mor ddifyr ag oedd modd; a barned darllenydd yr adroddiad hwn o'r hyn a gymerth le pa un a iwyddasant ai peidio.

Dechreuwyd y Nadolig yn Bodangharad trwy i gyfeillion ieuainc y fab a'r ferch gyfarfod yno am dri o'r gloch pryd- nawn Rhagfyr 24ain, a buont hwy yn brysur iawn o'r awr hono tan wyth, yn chwareu mwywd yr ieir, tynu cwtws, brathu afalau crogedig, bwyta cyflaith, &c. Yr oedd yno ugain o honynt oll, a'r hen ŵr gwachel yma sydd yn dweyd yr hanes wrthych yn eu mysg, ac erbyn heddyw efe ydyw'r unig un sydd yn aros o'r ugain. Yr oedd Angharad, merch y tŷ, yn un o'r ugain, ond y mae hithau