Tudalen:Cymru fu.djvu/411

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi myn'd-wedi mynd er's ugain mlynedd. Pan ddaeth wyth o'r gloch i fynu, torwyd y cwmni hwnw, ac aeth pawb i'r fan gan ddymuno Gwyliau llawen, a blwyddyn newydd dda," a phenderfynu un ac oll bod yn brydlawn yn y Llan am chwech bore dranoeth ar gyfer y plygain. Pa fodd bynag, yr oeddwn I yn gryn law gyda gwr Bodangharad, a thrwy fod fy nhad a'm mam yn aros yno, a minau yr unig blentyn, ac yn gantor lled rigil hefo'r tanau, cefais inau aros hefyd. "Mab a merch y tŷ a minau oeddynt yr unig rai a gawsant aros i ddisgwyl y Plygain, o'r ieuenctyd; a gellwch gredu ein bod yn ei hystyried yn ffafr fawr.

Fel y dywedais, yr oedd yno tuag ugain o honom, a gellid rhanu ein cwmni yn naturiol i ddau ddosparth, sef dosparth y glust a dosparth y tafod. Peth pwysig iawn, 'mhlant I, ydyw i ni ddeall i ba un o'r ddau ddosparth yma y byddwn ni yn perthyn, canys fel y dywed Solmon, "y ffol tra tawo a gyfrifir yn gall, ac o'r ochr arall, gallasai ddweyd, "y call tra tawo a gyfrifir yn ffol," felly pwnc digon anhawdd ei benderfynu ydyw pa un ai i fod yn dafod ynte yn glust y bwriadwyd ni yn y byd yma. Baich drom ar wlad neu gwmni ydyw gormod o dafodau, a rhyw led farwaidd fyddai hi heb yr un hefyd. Tipyn o bob un, 'mhlant I, a'u harfer nhw yn iawn. Beth bynag yr oedd cwmni Bodangharad yn meddu anhebgorion cwmni da a difyr, sef clust a thafod. Eisteddem oll ar yr aelwyd fel lleuad haner llawn; a'r tân o'n blaenau yn gwasanaethu fel haul. Ar gadair ddwyfraich o dderw yn y gornel yr eisteddai gwr y tŷ, ac fel y mae'n alarus dweyd, pibell cyhyd â'i fraich yn ei ben—efe oedd cadeirydd y cyfarfod; ar y pentan wrth ei benelin yr oedd Huw îfan, y telynor dall; ac ar ei ddeheulaw "bardd " y cyfarfod, Ifan "Shibbols" Roberts o Dyddyn Shibbols—efe oedd y cyntaf a arferodd y dull addurnol o ddodi ei ffugenw rhwng ei ddau erw priod—mewn gwirionedd, "tad y trueiniaid a'r tri enw," ydoedd. Ar gyfer y cadeirydd, yn y gongl arall, dacw'r hen chwaer ffraethbert Catrin Davies, neu Cadi Catrin; ac yn union ar gyfer y tân yr oedd y brodyr doniol Robert Cyffin y Gwehydd, Roli Rolant y porthmon, a Huw Bifan yr hen sowldiwr,—galwai y "bardd" y tri hyn "yn drioedd dawn a chwedl," yr ardal hono. Y rhai hyn oeddynt dafod a cwmni, ac edrychasid ar y glust bynag a fynasai draws-feddianu eu lle hwynt gyda chryn lawer o eiddigedd. Beth bynag i chwi, wedi cryn lawer o besychu, symud a threfnu >