Tudalen:Cymru fu.djvu/413

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o hyd y dydd hwn. Yr ydych yn gwybod mai i gofio genedigaeth Crist y sefydlwyd yr Wyl hon: a chredai llawer am hir amser mai ar gyfer y diwrnod y ganed ein Harglwydd y cedwir yr wyl, a pheth da ydyw cadw y fath enedigaeth mewn coffhad bendigedig. Fe fydde'n tadau ni, yr hen Gymry er's talm, yn credu fod creaduriaid di-reswm hyd yn nod yn talu parch i'r nos yma; byddai'r gwenyn am haner nos yn canu'n braf yn eu cychod; a'r gwartheg yn y beudy yn penlinio fel pe buasent mewn eglwys—talu parch welwch chi, fel tae. Wniddim p'run ydych chi yn coelio peth fel hyn. [Catrin Davies: Bob gair, E. Huws, mi gwelais I nhw fy hun]. Or goreu, Catrin Davies, well imi beidio mynd dim pellach ffordd ene, onite mi dyna ddryghin yn y mhen, fel tae. Ond y mae nhw yn deud nad ar y 25ain o Ragfyr y ganwyd Crist, ac o ganlyniad nad oes dim mwy o rinwedd yn y diwrnod na rhyw ddiwrnod arall. [“Mae nhw yn deud yr hyn a ddeudodd eu nain yn yr Eglwys te,” ebai Cat. Davies]. Wel, p’run bynag, gwyl noble ydy'r Nadolig, a pheth noble ydy'r plygain, a'r gwasanaeth, a'r cyflaith, a'r wydd, a'r cwbl. Hen ŵr noble ydy'r Nadolig. Gyfeillion, gadewch ini 'neyd yn fawr o hono a'i groesawu, ac yfed iechyd da iddo, a llosgi tybacco i'w anrhydedd, a dweyd chwedlau difyr yn ei glustiau, a'i demptio i frysio atom eto, a chan alw ar Mr. Rolant, arglwydd y porthmyn, i ddeud rhyw hapes difyr, yr ydw I yn myn’d yn ol i nghornel tan ewyllysio i chwi. Wyliau Llawen a Blwyddyn Newydd Dda. Wedi tipyn o rodres dyma'r rhychor porthmonol yn ufuddhau i'r alwad.

ROLI ROLANT Y PORTHMON

Pwt o ddyn gwridgoch, yn tynu at ei haner cant oed, oedd Roli, dyddan ei wala, ac ymffrostiwr gwych. Bostiai iddo dalu yn ystod ei fywyd ugain mil o bunau i ffermwyr Cymru am fustachiaid, ac y dylasent hwy beth bynag ei ystyried yn gymwynaswr. Dywedai iddo fod yn Llundain gant o weithiau, ac iddo lawer gwaith gerdded deg milltir a thriugain yn y dydd am dridiau yn olynol, neu yr holl ffordd o Lundain i'w dy ei hun, y Llwyn Ynn, yn Nyffryn Clwyd. Dechreuai: Byddai yn well genyf bob amser gerdded na marchogaeth; 1af, am nad oedd yr un ceffyl a allasai fy nwyn mor gyflym ag y deuwn ar fy neudroed ; 2il, am fod y ffyrdd mor ddrwg mewn llawer man er's talwm fel mai llawer mwy rhesymol fuasai i mi gario y ceffyl hyd ochr clawdd y ffordd, nag i un truan anifail fy