Tudalen:Cymru fu.djvu/417

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y drws; "rhaid i ni frysio ei ladd o tra byddo y dwr yn boeth," ebe llais arall cryf treiddgar, gwaedlyd, llais na chlywais I o'r blaen yn y tŷ hwnw. "Aie, ie!" ebe fi, fy lladd ac yna fy ysgaldio!" rhedais at y ffenestr ar fedr agor hono a gwaeddi allan am help, ond er fy mawr siomedigaeth, ac er ychwanegiad dirfawr at fy helbul, nid oedd moddion agor ar gyful hono; felly mi a droais yn ol at y ddôr gan benderfynu cyfarfod fy nhynged, a phrynu fy angau mor ddrud byth ag y medrwn. Yr oedd y ci yn parhau i gyfarth yn achlysurol, ac yn mhen ychydig, dyma guro trwm ar y drws, "Trowch y ci yna allan i'r buarth," ebe llais gwr y tŷ; Atebais inau yn ddewr, "Os gwele fo yn dda y cadwn fy ci ac y gallai yntau gadw ei dafod." Gyrodd hyn ef yn gaclwn gwyllt, rhuthrodd yn erbyn y. drws, nes y tybiaswn y buasai y fath nerth yn dryllio tri o ddrysau. Yr oedd Pero yn wylltach nag yntau, cyfarthai nes oedd ei dafod allan yn dyheu am anadl. dyn cyntaf a ddaw i mewn i'r room yma," ebe fi, "mi saetha fo yn farw gorn gelain gegoer, mi dryllia fo yn ddigon man i fyned trwy ogr rhawn, mi gochaf y muriau a'i waed o, ac mi-mi-mi geiff y ci yma ysu yr hyn a adewir o hono heb fyned i ganlyn y gwynt,' ac yn ddiarwybod i mi fy hun tra yn traddodi yr araith hon yr oeddwn yn dal darn o bren yn lle gwn, gan anelu at y drws. Ni y chlywais air mwyach gan y gwr, credwn ar y pryd fod y geiriau mawr a arferais wedi ei bendroni, ac mai iddynt hwy yr oeddwn yn ddyledus am fy mywyd. Yr oedd sŵn mwstwr yn parhau yn y gegin, minau yn parhau i wylio, a Phero yn parhau i gyfarth, er wedi crygu. Yn y cyfamser yr oedd fy ofnau weithian yn cilio, ond yr oeddwn yn arswydo wrth feddwl beth fuasai'r canlyniad o ddyfod gŵr y tŷ a Phero i gyfarfod â'u gilydd, ni buasai ond bywyd am fywyd am dani; a dichon y buasai'r ci a minau yn y diwedd yn cyfarfod â'r un dynged. Pa fodd bynag, o'r diwedd, fe wawriodd y bore arnaf i roddi terfyn ar y fath nos flin adfydus, a dechreuodd fy yspryd ymloni o'm mewn. Ac yn mhen yr hir a'r hwyr, tybiwn ei bod yn amser i minau droi allan o'm hystafell-wely: ond sut i edrych yn ngwyneb y fath dylwyth mileinig ag oedd yn y gegin oedd bwnc sobr eto. Beth bynag i lawr yr eis I; ni fwyteais yr un tamaid; gofynais i'r wraig pa faint oedd arnaf am fy lletty annghysurus? Troais gil fy llygaid a gwelwn fochyn newydd ei ladd yn hongian yn y bwtri. Dywedodd hithau mor ffyrnig fyth ag y medrai mai fy mai İ fy hun oedd fod fy lletty ynannghysurus; eu bod hwy yn lladd mochyn y bore a