Tudalen:Cymru fu.djvu/419

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

well;" ac ar hyny dyma waeddi mawr am i'r hen gares draethu ei chwedl.

CATRIN DAVIES O NANT YR HUNLLEF.

Plentyn annghoeth natur oedd hi, yn byw mewn bwthyn unig bychan yn un o'r nentydd mwyaf anghysbell ac anial yn Nghymru; yr hon nant a alwaf Nant yr Hunllef, i'w gwahaniaethu oddiwrth "Nantau" afrifed eraill Cymru; ac fe wel y cyfarwydd â'r lle briodoldeb yr enw, canys yn y glyn coediog hwnw y mae natur bob amser yn ymddangos mor lonydd farwaidd, a phe buasai hunllef trwm yn gorwedd arni. Yr oedd yno tua deg cyfair o dir o gwmpas y bwthyn, lle y cadwai yr hen chwaer fuwch a mochyn at ei bywiolaeth. Y rhai hyn oeddynt ei chyfeillion arbenicaf—cydofidiai â hwynt yn eu trallod—cydlawenychai â hwynt. Ydi'r teulu acw yn iach ?" ebai ambell i genay sobr-wedd wrthi ambell dro. Na wir mae'r mochyn acw wrth hel mês wedi cael pigyn cas iawn yn ei droed," neu, Y mae'r fuwch acw wedi cael Clwy'r Braenar," fyddai ei hatebiad hithau.

Od a fuasai y sawl a ymgymerasai a byw yn y fath le, ac od yn ddiau y gwnelsai y fath le pwy bynag a el'sai i fyw iddo. Nis gwyddom ar bwy yr oedd y bai, ond nid oes dadl nad oedd Catrin Davies yn bentwr o hynodrwydd. Yr oedd edrych ar ffurf ddigrifol ei gwyneb yn ddigon à gwneud i'r sobraf chwerthin; ac yr oedd ei dyn oddifewn yn llawer digrifach fyth. Yr oedd hi yn cashau pob peth newydd â chas perffaith —o ddiafol y byddai pob ffasiwn ganddi ond yr hen ffasiwn. Yr oedd hi yn lanwedd iawn o gorph, am fod hyny yn hen ffasiwn; ond yr oedd golchi lloriau tai rhagor nag unwaith yn y flwyddyn, a hyny ar Nos Sadwrn y Pasg, yn ei thyb hi yn falchder a rhodres anfaddeuol; am nad oedd hyny yn hen ffasiwn. Llawr pridd chwi gofiwch oedd gan yr hen bobl; ni buasai golchi pridd yn ei wneud ddim glanach, ond ei ysgubo y byddent ag ysgub o ddanadl; ac odid fawr na byddent wedi ysgubo y llawr i gyd i'r twll lludw erbyn y Pasg, ac yna byddai raid ail lorio, a dyna "olchi'r llawr" gan yr hen bobl. Yr oedd Catrin Davies yn doriaidd iawn; ac y mae'n debyg mai'r egwyddor hon a barodd iddi beidio a phriodi drwy ei hoes; er iddi, meddai hi, gael llawer cynyg hardd a theg. Yr oedd ei syniadau ar Briodas fel pobpeth arall yn od. "Priodi yn wir," ebai hi, "mi wn bedy Cadi, wn I ddim bedy neb arall. Gŵr yn wir! i ddiogi a meddwi tra byddwn I a'r plant yn ll'w'gu gartre'. Plant! mi ga