Tudalen:Cymru fu.djvu/420

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rywbeth am fagu moch a lloiau; chawn I ddim ond gofid wrth fagu plant." Yr oedd hi cyn dywylled â'r fagddu; ni fedrai ddarllen gair ar lyfr; er hyny, anfynych y cyfarfyddech â neb yn medru ar dafod leferydd gymaint o waith beirdd Cymreig hen a diweddar â hi. Gallai adrodd llawer o interliwdiau Twm o'r Nant mor rigil a disgyniad pistyll; ac o bob bardd efe oedd y penaf yn ei thyb hi. Pan ofynid iddi mewn cwmni fel yma adrodd rhyw chwedl ddifyr, er ei bod yn gwybod ugeiniau o'r cyfryw, yn lle chwedl, troi i ganmol ei hoff awdwr a wnai hi, ac o dipyn i beth, dechreu adrodd rhyw ddarn tarawiadol, er mwyn iddynt gael blas ar y peth, a gofyn iddi am ddernyn hirach. Felly y gwnaeth hi y tro hwn, a dyma y darn a adroddodd; ac fel ffafr fawr hi a'i hail adroddodd wrthyf fi dranoeth, minau a'i hysgrifenais. Rhoddais arno yr enw

DIWEDD ARTHUR GYBYDD.

ENTER Arthur Gybydd, yn glaf.

Arthur. Hai, how, heno, 'r cwmni eglur,
Dyma finau dan erthwch, yr hen Arthur,
Yn edrych am le i eistedd i lawr,
Gan fy ngwaew mawr a'm gwewyr.

Fe'm trawodd rhyw glefyd chwerw,
'Rwy'n ofni y bydda'i marw,
Ow! bobl, bobl, 'does help yn y byd,
I'm tynnu o'r ergyd hwnnw?

'Rwy'n gweled o ben bwy gilydd,
Fy mhechod, a nôd annedwydd,
Cydwybod sydd i mi'n traethu 'nawr,
Fy nghastie, mae'n fawr fy nghystudd.

Dacw'r ddefaid a ddyges, mi wn tros ddeugain,
Yn rhedeg 'rhyd y llethr, a dacw'r pec a'r llathen,
Dacw'r ŷd budr yng ngwaelod y sach,
Dacw'r pwysau bach aflawen.

Dacw'r llaeth tenau, O! 'r felldith donog,
Werthasom ganwaith ddau chwart am geiniog;
A'r mân-ŷd yn y brith-ŷd, sy'n brathu fy nghalon;
Mi wnes gam diawledig â phobl dlodion.

Ow! oes yma neb a fedr weddio?
Na phregethwr, na doctor, yn hynod actio,
O! nid oes i'm hoedl i fawr o drust,
Ow! physic, 'rwyf just a phasio.