Tudalen:Cymru fu.djvu/426

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn sefyll gerllaw; a pheri i'r hogyn gymeryd arno grio pan welai Syr John yn dyfod. Hyny a wnaed, a'r byddigions am y gwrych yn dysgwyl pa beth a gymerai le. Yn mhen ychydig, dyma'r boneddwr yn d'od, a'r hogyn yn crio ei oreu glas, " Am be' 'rwyt ti yn crio, machgen i?" ebai'r barwnig cymwynasgar. Am na fedraf gael y sach yma yn ol ar gefn y ceffyl, syr," ebai'r hogyn. Wel aros, gâd i mi weld os gallaf wneud rhywbeth o honi." Yna gafaelodd yn hollol ddidaro yn ngheg y sach, a thaflodd hi ar gefn yr anifail, a'r fath oedd ei phwysau fel y torodd asgwrn cefn yr hen geffyl, druan. Felly nid oedd neb agosach i wybod beth oedd nerth Syr John y Bodiau. Efe hefyd, medden nhw, a laddodd yr anghentil ofnadwy hwnw Bych; ac ar ol gorphen y gwrhydri, a ddolefodd yn orfoleddus " Dim Bych," yr hyn ydyw tarddiad enw tref Dinbych.

Fel y gwyddoch, y mae cerfddelwau o'r barwnig a'i deulu yn yr Eglwys Wen gerllaw Dinbych. Byddai Syr John hefyd yn hoffi tipyn o ddigrifwch diniwaid, er yn myned bob dydd i weled mynwent yr Eglwys Wen; ac yr oedd Gwladus, ei chwaer, wedi priodi gyda gwr boneddig o Lundain—dyn ysmala, llawenfryd, yn gwybod cryn lawer, ond mor anwybodus yn nghylch trin tir a gardd a darn o bren. Mae'n debyg fy mod I, Ifan Huws, yn gwybod llawn cymaint am gyrn yr hen fuwch yna sydd yn yr awyr ag mae'r bobl ddysgedig yn ei galw hi yn Lleuad, ag a wyddai y Llundeiniwr hyn am farmio a garddu. Ond yr oedd Syr John ac yntau yn benau ffrindiau: er fod prif bleser Syr John mewn trin tir, yn enwedig gyda'r ardd. Yn ei ardd ceid casgliad o'r blodeu prinaf ac ardderchocaf. Garddu oedd prif bleser gwr Lleweni. Pan ar ymweliad â Lleweni un tro, daeth y Llundeiniwr i wybod hyn, a phenderfynodd chwareu cast diniwaid ar y Sanau Gleision. "Wyddoch chi beth, nghefnder," medde fo un diwrnod pan oeddynt ill dau yn rhoddi tro trwy yr ardd, "y mae geny' hadyd blodeu, newydd eu cael yn bresant o Jamaica, a ganmolir yn uchel gan y sawl a'u gwelsant yn tyfu yn y wlad hono; ac ni hitiwn I fotwm corn a'u rhanu rhyngoch chwi a minau." "Diolch i chwi, fy nghefnder," ebai Syr John; ac nid allesid addaw odid i rodd mwy derbyniol ganddo na'r rhold hon o ychydig hadyd o Jamaica.

Daeth y pryd i'r gwr boneddig diarth droi ei wyneb tuag adref; a gair olaf Syr John wrtho oedd erfyn arno gofio danfon y rhodd gyda'r cyfleusdra cyntaf. Yntau a adduwodd y gwnai, a bu cystal a'i air. Bu disgwyliad