Tudalen:Cymru fu.djvu/427

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr am ddyfodiad y cerbyd o Lundain i Ddinbych; a phan ddaeth, a'r sypyn gydag ef, brysiodd Syr John i'w agor; a chyn wired a'r pader dyna lle 'roedd rhyw ddau ddwsin o hadau cochion bychain wedi d’od yr holl ffordd o Jamaica. Dangosodd hwynt i lawer o'i gymydogion, y rhai a synent yn fawr wrth edrych arnynt, er na wyddent fawr am danynt; ac a synent fwy fod pethau bychain mor ddisylw wedi eu danfon mor bell o ffordd. Beth bynag, wrth i Syr John eu trin a'u trosi, a'u dangos i hwn a'r llall, tybiai fod oglau rhyfedd arnynt, ac ammheuai ai nid oglau penwaig ydoedd; synodd yn aruthr at hyn, ond yn ddios oglau penwaig oedd yr oglau; a pha fwyaf ogleuai arnynt, cryfach cryfach oedd ei gred ar y pwnc. Rhoddodd un o honynt yn ei enau, ac yr oedd blas cryf penog coch arno. Wyddoch chi beth," meddai, rhwng difiri a chwareu, "y mae'r Andros yn Roger yna ya danfon hadau o fol penog coch i mi; ond gadewch iddo, mi dalaf inau y pwyth yr ol." Yr oedd hyn tua'r Nadolig.

Daeth Llundeiniwr ar ymweliad yn mis Ebrill drachefn; mis tra phwrpasol i weithredoedd castiog, it disgwyliai gryn lawer o bleser oddiwrth ei waith yn cogio Syr John gyda'r hadyd. Yr oedd y barwnig, er mwyn chwareu ei ran yntau, wedi crybwyll yn un o'i lythyrau fod yr hadyd yn y ddaear. Parodd hyn i'r Llundeiniwr gredu fod yr abwyd wedi cymeryd; a phan gyrhaeddodd Leweni, un o'r pethau cyntaf yr holodd efe yn eu cylch oedd yr hadựd o Jamaica. "O, d'od yn mlaen yn gampus," ebai Syr John, "y maent wedi egino bron i gyd." "Egino!" ebai'r Llundeiniwr, "egino!" ac edrychodd yn graff yn llygaid ei gyfaill, ac edrychodd drachefn yn graffach; ond nid oedd yno ond y dilysrwydd perffeithiaf i'w weled—dim yr arliw leiaf o rsmaldod. "O ie egino," ebai Syr John, ac heb ychwaneg o siarad, efe a wahoddodd ei gyfaill i gael golwg arnynt; a chan gymeryd y blaen, a'r Llundeiniwr yn ei ddilyn tan fwmian, "Wel, os nad hon ydyw yr wythfed rhyfeddod !" daethant at gongl neillduedig yn yr ardd; ac yn ddigon siwr dyna lle 'roedd tuag ugain o egin penwaig cochion mewn tair o resi ar ddull rhesi maip. a thua throedfedd rhwng pob un, "er mwyn iddynt," ebai Syr John, "gael lle i wreiddio a dail-ledu." Blaen trwyn ambell un o honynt oedd allan o'r ddaear, tra'r oedd llygaid ereill yn sylldremio yn llygaid yr edrychydd; "ond y mae y rhai hyn wedi cael mwy o haul," ebai Syr John, ac yr oedd tagellau y rhai hyny uwchlaw y pridd. Wel, cyn wired a bod