Tudalen:Cymru fu.djvu/428

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwg yn Llundain," ebai'r gwr diarth, “os gwelais I y fath beth erioed!" ac edrychodd yn llygaid sobr y barwnig, ac edrychodd y barwnig yn ei lygaid synedig yntau, ond nid oedd yr arliw gwanaf o dwyll na hoced yn y sobrwydd na'r syndod. Tir da ydyw hwn; mi dŷf y peth fynoch chwi ynddo," ebai Syr John. 'Ddyliwn wir," ebai'r Llundeiniwr, ac aethant tua'r tŷ yn ol; er mawr ollyngdod i'r pen garddwr, yr hwn oedd yn yr holl gyfrinach, a'r hwn a ymollyngodd i ffit o chwerthin mor fuan ag y cafodd gefn y byddigions. Yr oedd y newydd-beth hwn i'r Llundeiniwr mewn garddwriaeth wedi troi a'i gwadnau i fynu bob tyb ag oedd ganddo o'r blaen ar y pwnc. Pysgodyn o benog, yn tyfu fel meipen! hwyrach y tyfai ceryg mewn "tir da fel gardd y Lleweni; hwyrach y tyfai aur ynddo? Mae'r darganfyddiad yma yn werth rhywbeth. Y mae geny' feddwl am roddi gini yn naear yr ardd yma." Bwriadodd hefyd am wneud y peth yn destun araith yn ei glwb yn Llundain, ac mi baratodd gryn lawer o feddyliau ati. Ac mi feddyliodd gryn lawer o feddyliau ereill cyffelyb, meddai Robert Cyffin, gan droi y sylwedd oedd rhwng ei ddeintle a'i fochgern; ond welwch chwi 'does geny' ddiin amser i fyn'd trostyn' nbw. Digon i mi ydyw dweyd fod yr hyn a welodd efe yn ngardu Lleweni bron wedi synu y boneddwr i farwolaeth. [Catrin Davies:—Dyna dwll newydd i'r byd tragwyddol na wyddwn i ddim am dano o'r blaen). O, ai ie ? (ebai Robert wedi moni braidd). Ond beth bynag i chwi, (gan ail afael yn awenau ei dymher) mae llawer math o angau, Catrin Davies,—angau llawenydd, ac angau gofid, ac angau cariad, ac felly yn y blaen. Ond mi welodd Syr John fod y gwr yn dihoeni, ac fel gŵr boneddig, mi ddeudodd wrtho fo; ac felly fe ddaeth pobpeth i'w le, ac fe gafwyd chwerthin braf uwchben y cast, ac fe gafwyd prawf fod y gwladwr Cymreig llawn cystal cogiwr a'r Sais o brif ddinas Lloegr. A dyna fy chwedl I, Ifan Huws.

HUW BIFAN YR HEN SOWLDIWR

Pan oeddwn I yn gwasanaethu fy ngwlad a'm brenin yn y 'Merica, yr oedd genym ŵr ifanc yn gapten mwyaf rhwydd- galon a welsoch chwi erioed. Nid rhyw glepgi oedd o, na rhyw lêch ffals, ac nid rhyw genaw brwut balch; ond dyn diwyddo draw, ac yr oedden ni i gyd yn ffond dros ben o hono. Yr oedd o mor galon dyner tuag at y troseddwr, mor gymwynasgar i'r claf, mor hawdd ganddo gynorthwyo y tlawd, fel na chyfeiliornwn lawer pe dywedwo ei fod y