Tudalen:Cymru fu.djvu/429

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyaf anwyl gan ei ddynion o holl gapteniaid George III. Yr oedd yr olwg gyntaf arno yn ddigon a pheri i chwi syrthio mewn cariad ag ef. O ran corph nid oedd o ond byr; ond, 'rwy'n siwr na welsoch chwi erioed neb yn edrych yn well mewn dillad sowldiwr. Ond yr oedd yn hawdd gwybod fod rhywbeth yn pwyso yn drwm ar ei feddwl o; beth oedd y rhywbeth hwnw nid oedd ei gyfeillion mwyaf mynwesol y medru dyfalu. Byddai yn ymuno yn y cinio misol ag oedd gan ein swyddogion, ond nid yfai ddim, ac yr oedd y gyfeddach bob amser yn ei sobri yn hytrach nag yn ei lawenhau. Unigrwydd oedd ei brif bleser; a mynych y ceid ef yn y coed wrtho ei hun ac yn ymgomio ag ef ei hun rywbeth nad allodd neb ddyfod yn ddigon agos ato i wybod beth a ddywedai yn iawn. Yr unig air a glywyd oedd, "Felly Gwilym!" Nid oedd neb yn gwybod yn iawn yn mha gwr o'r byd y ganwyd ef; a phan holid ef ar y pwnc dywedai mai yn Nehebarth Cymru, ond ni ddangosai unrhyw awydd i fyned yn mhellach i fanylion ei haniad. Tybid mai y rheswm tros hyn ydoedd ei fod yn hanu o deulu isel; ond yr oedd ei foes a'i arfer foneddigaidd yn lladd y dybiaeth hon hefyd. Ond y penderfyniad y deuwyd iddo oedd mai wedi ei siomi gyda i serch yr ydoedd ; a bod y geiriau a glyvsid o'i hunan-ymddiddan yn cadarnhau y penderfyniad hwyn; ac mai rhyw Gwilym oedd ei withymgeisydd. Ond pwy oedd y Gwilym hwn, ni wyddai neb. Nid amlygai y capten unrhyw bryder ych waith ar fater yn y byd—buasai hyny hwyrach yn rhoi rhyw awgrym i ddatguddio y dirgelwch. Mae'n wir iddo holi unwaith neu ddwy os oedd y 45th foot yn y Merica; a phan hysbyswyd ef nad oedd, ymddangosai braidd yn siomedig; a phan atebwyd ef drachefn fod y regiment ar ei ffordd o Brydain ymddangosai braidd yn llawen. Holai y cornol (colonel) drachefn pa bryd y cyrhaeddai y 48th, ac i ba gwr o'r wlad yr oedd hi i gwartro? Atebai yntau ei bod i gyrhaedd New York ar y 6ed o'r mis canlynol; ac yn ol pob tebyg y byddai iddi aros am yspaid beth bynag gyda ni yn Utica. Nid oedd y ddadl leiaf na wenodd y capten wrth y newydd hyn un o'r gwenau llydain, dyfnion, hyny sydd bob amser a'u tarddiad yn y galon. Ond er hon oll yr oedd dirgelwch ei fywyd llawn mor ddiesboniad ag erioed. A oedd ei wrthymgeisydd yn y regiment, ac yntau yn bwriadu dial! eto nid gwên ffals ddieflig y dialgar oedd ar ei wyneb pan glywsai y newydd. Wedi hyn, ar ystorm, ymddangosai mewn pryder dwfn, a mynych holai ei gyfeillion