Tudalen:Cymru fu.djvu/430

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

os meddylient ei bod yn gymaint ystorm ar y dwr ag ar y. tir. O'r diwedd, dyma'r Cornol yn derbyn llythyr yn ei hysbysu fod y 18th wedi cyrhaidd yn ddyogel i New York; ac y byddent gyda ni tua'r 25ain. Yr oedd yn dda genym oll glywed hyn; yr oedd gan rai o honom gyfeillion yn y regiment hono; eraill a ddysgwylient fanylion rhyw newydd o'r hen wlad: ac nid wyf yn meddwl fod gan neb glywed ein bod i gael cwmni y 48th. Ond o bawb, y capten oedd y llawenaf am y newydd hwn; nid oedd dim terfyn ar ei sirioldeb.

Beth bynag i chwi, o'r diwedd fe ddaeth y 25ain o'r mis, a pharatoisom ninau i roddi derbyniad croesawus i'n cydfilwyr; ac yn hyn o beth nid oedd neb prysurach a mwy gwresog na'r capten. Tua haner dydd, dyma ni'n clywed eu seindorf, a ninau yn ymdrefnu mewn dull milwrol i'w chroesawu: dacw nhw a'u baner yn chwifio, a'r wisg goch Brydeinig yn pelydru yn llygad haul; taniwyd y gynau. ac wedi gorphen y ddefod filwrol prysurasom at ein gilydd i roddi cyfarchiad llai ffurfiol ond cynesach; cyfarchiadau calon gynes Prydeiniwr yn cyfarfod Prydeiniwr mewn gwlad bell. Yr oeddwn I yn gwylio'n ddyfal holl ysgogiadau y capten. Gwelwn ef yn carlamu ar ei farch hyd at gapten y 18th, yn ei gyfarch fel milwr, ac yn ysgwyd llaw ag ef yn galonog. Gyda hyn, disgynodd y ddau oddiar eu meirch, gan syrthio ar yddfau eu gilydd ac ymgusanu. Aethun yn nesatyntachlywais y geiriau, "Gwilym anwyl, yr oeddwn yn eich disgwyl!" Luned! Luned!" ebai'r capten arall, "pwy fuasai yn meddwl am danoch chwi, a'ch gweled yn sowldiwr!" Bu llawer ychwaneg o siarad o'r un natur, na byddai ond gwastraff ar amser i mi eu ail adrodd. Aethant ymaith gyda'u gilydd, a'r olwg nesaf a gefais I ar fy nghapten oedd mewn gwisg merch; ac os oedd o (neu hi ddylwn I ddweyd) yn edrych yn dda mewn dillad sowldiwr, welais I neb erioed yn edrych yn well yn nillad boneddiges. Cyn pen y mis i ddyfodiad y 48th i Utica, cefais y pleser o weled priodas fy hen gapten gyda Capten Gwilym Williams, o'r 48th gwyr traed byddin ei fawrhydi George III.

Gyda fod y gymeradwyaeth i araith Huw Bifan wedi gostegu, dyma yr hen gloc derw mawr yn y gornel yn taro dau o'r gloch y bore; a dyma fwyd o'u blaenau mor sydyn, dystawa di-ddysgwyliad, a phe buasai rhai o fodau gwlad hud a lledrith wedi ei ddwyn yno. Ond ni fynai y Cadeirydd son am fwyta, fel tae, cyn gorphen v cyfarfod yn drefnus yn ol y cynllun a osododd efe o'i